Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Bwrdeistref Camden Llundain

Cyllid digyfyngiad a hirdymor.

Ers 2015, mae Bwrdeistref Camden yn Llundain yn gweithredu cynllun cymorth hirdymor i’r sector gwirfoddol, gan gynnwys cynnig grantiau saith mlynedd drwy’r Gronfa Partneriaid Cymunedol. Nod y dull hwn yw cynyddu sefydlogrwydd, caniatáu cynllunio strategol, a lleihau’r fiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â cheisiadau grant niferus.

Lansiodd y Cyngor raglen Cronfa Partneriaid Cymunedol saith mlynedd (2024 i 2031), gan ddarparu grantiau craidd i sefydliadau’r gymdeithas sifil leol sy’n cyflawni newid cymdeithasol arwyddocaol. Cafodd 38 o sefydliadau grantiau yn amrywio o £10,000 i £100,000 y flwyddyn, sef rhan o fuddsoddiad blynyddol ehangach o £4 miliwn. Mae’r cyllid aml-flwyddyn wedi cryfhau perthnasoedd yn sylweddol, gan feithrin amgylchedd cydweithredol sy’n canolbwyntio ar nodau cymunedol cyffredin. Roedd hyblygrwydd y cyllid yn fodd i sefydliadau drosoli cyllid arall ac addasu at anghenion sy’n esblygu. Wrth ddylunio’r rhaglen, cafodd y Cyngor eu harwain gan egwyddorion Grantiau Agored ac Ymddiriedus y Sefydliad Gweithredu Gwirfoddol (IVAR), a daeth yn un o’r asiantaethau cyhoeddus cyntaf i ymuno â’r fenter yma sy’n hybu’r arferion gorau mewn cyllid grantiau. Gan dynnu ar y gwersi a ddysgwyd o raglenni cyllido blaenorol a thrwy ymateb i newidiadau yn anghenion allanol cymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad, mae Camden yn dal i ddatblygu ecosystem gyllido amrywiol i gefnogi mwy o sefydliadau ar wahanol gyfnodau datblygu.

Y gwersi allweddol

Mae’r dull yma wedi hybu mwy o gydweithredu, cyd-gymorth, a gweithio cydweithredol, gan symud perthnasoedd o’r trafodaethol i’r strategol, gan rymuso sefydliadau i gyflawni effaith gymunedol barhaol.

Updates to this page

Published 17 July 2025