Cyfamod y Gymdeithas Sifil: AllChild a Better Society Capital
Comisiynu hyblyg ar gyfer gweithredu cynnar effeithiol.
Mae AllChild yn elusen a grëwyd i harneisio adnoddau cymunedol i weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, dyngarwyr, y llywodraeth a’r sector gwirfoddol a chymunedol i wella cyfleoedd bywyd i’r 20% o blant sy’n wynebu’r risg fwyaf o ganlyniadau gwael. Mae’r rhaglen yn becyn dwy flynedd dwys o gymorth wedi’i deilwra i gryfderau, anghenion a dyheadau unigryw pob plentyn.
O ran ei fodel cyllido, mae AllChild yn cael ei gefnogi drwy waith comisiynu sy’n seiliedig ar ganlyniadau, sy’n gweld buddsoddwyr cymdeithasol fel Better Society Capital yn sianelu arian trwy reolwyr cronfeydd i ddarparu cyfalaf gweithio i’r sefydliad. Mae’r comisiynydd, yn yr achos hwn llywodraeth leol, yn talu allan unwaith y bydd canlyniadau targed yn cael eu cyrraedd, megis gwell lles i blant. Mae’r model cyllido hwn yn lleihau’r risg ariannol i gyrff cyhoeddus, a thrwy hynny yn hybu buddsoddiadau mewn rhaglenni arloesol a hyblyg.
Y gwersi allweddol
Mae contractau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn rhoi hyblygrwydd a chynaliadwyedd i sefydliadau’r sector cymdeithasol, gan eu galluogi i greu partneriaethau â’r rhanddeiliaid gan gynnwys y sector cyhoeddus lleol, dyngarwyr a buddsoddwyr, wrth ddarparu gwasanaethau effeithiol sydd wedi’u teilwra.