Canllawiau drafft ar sancsiynau sifil iechyd planhigion
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Disgrifiad yr alwad o dystiolaeth
Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno sylwadau ar y canllawiau arfaethedig sy’n nodi sut mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn bwriadu defnyddio sancsiynau sifil.
Cyflwynwyd sancsiynau sifil ar gyfer iechyd planhigion fel rhan o ddeddfwriaeth yn 2020 ond nid yw APHA wedi eu rhoi ar waith eto. Bydd y canllawiau hyn, pan gânt eu cyhoeddi, yn galluogi APHA i ddefnyddio sancsiynau sifil ar gyfer troseddau iechyd planhigion y mae APHA yn gyfrifol am gymryd camau gorfodi yn eu cylch yng Nghymru a Lloegr. Mae sancsiynau sifil yn darparu amrywiaeth ehangach o opsiynau gorfodi y gellir eu defnyddio yn ogystal â’r adnoddau sy’n bodoli eisoes. O ganlyniad, bydd APHA yn gallu ymgymryd â’i rôl orfodi mewn perthynas â rheoliadau iechyd planhigion mewn ffordd fwy gymesur ac yn gallu cyfateb unrhyw sancsiwn neu gam gorfodi yn well i’r drosedd. Byddwch yn cael rhagor o fanylion a’r 4 cwestiwn rydym yn eu gofyn yn ein llythyr eglurhaol.