Dod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn ar gyfer:
- eich cynllun pensiwn gweithle neu bensiwn personol chi
- cynllun rhywun arall os oes gennych eu caniatâd
Gall y gwasanaeth eich helpu i ddod o hyd i bensiwn coll.
Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg (English) hefyd.
Rydych angen enw cyflogwr neu ddarparwr pensiwn er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Ni fydd y gwasanaeth yn dweud wrthych os oes gennych bensiwn na beth yw ei werth.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch hefyd ofyn am fanylion cyswllt gan y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn dros y ffôn neu drwy’r post.
Gwasanaeth Olrhain Pension
Ffôn: 0800 731 0193
O’r tu allan i’r DU: +44 (0)191 215 4491
Ffôn testun: 0800 731 0176
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
The Pension Service 9
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LU