Gwirio neu ddiweddaru'ch treth car cwmni
Os oes angen i chi dalu treth ar eich car cwmni, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn er mwyn:
- gwirio manylion eich car cwmni
 - rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am unrhyw newidiadau i’ch car ers 6 Ebrill
 - diweddaru’ch buddiant tanwydd, os yw’ch cyflogwr yn talu am danwydd
 
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Bydd angen:
- pris sylfaenol y car (gan gynnwys TAW ac ategolion)
 - i chi wirio a yw’ch car diesel yn bodloni’r safon Ewro 6d
 - gwybodaeth am allyriadau CO2
 - y ffigur milltiroedd allyriadau sero neu’r ‘amrediad trydan’ - os oes gan eich car hybrid ffigur allyriadau CO2 rhwng 1 a 50g/km
 
Gallwch gael yr wybodaeth hon oddi wrth eich cyflogwr.
Cyn i chi ddechrau
Pryd nad oes modd defnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw un o’r canlynol yn wir:
- rydych yn rhan o gynllun cyfartalu ceir neu rannu ceir
 - rydych yn defnyddio cynllun aberthu cyflog i dalu rhywfaint tuag at gost y car
 - mae’ch cyflogwr yn rheoli buddiannau a threuliau drwy gyflogres y cwmni (a elwir yn ‘talu drwy’r gyflogres’)
 - rydych am wneud newidiadau i gerbyd masnachol cwmni, megis fan
 
Cysylltwch â CThEM neu gofynnwch i’ch cyflogwr ddiweddaru’ch manylion os na allwch wneud hynny ar-lein.
Gwirio eich cod treth
Gall diweddaru manylion eich car cwmni newid eich cod treth.