Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr')

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno cais am ‘Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr’. Gallwch chi ei ddefnyddio i fwrw pleidlais yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda a gynhelir yn y DU. Ni allwch ei ddefnyddio fel prawf o hunaniaeth am unrhyw reswm arall.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Cyflwynwch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr:

  • os nad oes gennych chi ddull adnabod â llun cydnabyddedig
  • os nad ydych chi bellach yn edrych fel y llun ar eich dull adnabod â llun
  • os yw’r enw ar eich dull adnabod â llun yn wahanol i’ch enw ar y gofrestr etholiadol

Bydd angen i chi wneud cais erbyn 5pm ar 24 Ebrill 2024 er mwyn cael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gyfer yr etholiadau ar 2 Mai 2024.

Os yw’r enw ar eich dull adnabod â llun yn wahanol, gallwch chi gofrestru i bleidleisio eto neu fynd â dogfen gyda chi sy’n profi eich bod chi wedi newid eich enw wrth i chi fynd i bleidleisio.

Gwiriwch fod gennych chi ddull adnabod â llun cydnabyddedig

Cyn i chi gyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr, dylech chi wirio a oes eisoes gennych chi ddull adnabod â llun cydnabyddedig a phryd bydd angen i chi ei ddefnyddio i bleidleisio.

Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio

Gallwch gyflwyno cais am ddim. Bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • llun digidol o’ch hun a dynnwyd yn ddiweddar
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais o hyd os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol. Bydd angen darparu dogfennau eraill i brofi eich hunaniaeth, er enghraifft, tystysgrif geni, datganiad banc a bil cyfleustodau.

Dechrau nawr