Cael cyfieithydd mewn gwrandawiad llys neu dribiwnlys

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cyfieithydd am ddim os ydych chi’n mynd i wrandawiad llys neu dribiwnlys.

Fel arfer, dim ond yn ystod y gwrandawiad y bydd eich cyfieithydd ar gael. Efallai y byddant yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau cyfreithiol cyn neu ar ôl y gwrandawiad os yw’r barnwr yn caniatáu hynny.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw

Byddwch bob amser yn cael cyfieithydd os ydych chi’n fyddar neu’n cael trafferth gyda’ch clyw (‘trwm eich clyw’).

Os hoffech siarad Cymraeg

Mae gennych hawl gyfreithiol i siarad Cymraeg mewn llys neu dribiwnlys. Os oes angen cyfieithydd arnoch, cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos.

Gallwch gael pob ffurflen a thaflen yn Gymraeg. Gallwch ddefnyddio Cymraeg i ysgrifennu neu siarad ag unrhyw un mewn llys yng Nghymru.

Llysoedd Sifil

Byddwch yn cael cyfieithydd os yw’ch achos yn ymwneud â:

  • meddiant eiddo neu dir - er enghraifft, rydych chi’n cael eich troi allan gan eich landlord
  • traddodi - er enghraifft, rydych chi wedi torri gorchymyn llys ac efallai y byddwch chi’n mynd i’r carchar

Efallai y byddwch yn dal i allu cael cyfieithydd ar gyfer mathau eraill o achosion, ond dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ni allwch fforddio talu am gyfieithydd eich hun
  • nid ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol
  • nid oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu y mae’r barnwr yn dweud y gall weithredu fel eich cyfieithydd

Llysoedd Teulu

Byddwch yn cael cyfieithydd os yw’ch achos yn ymwneud â phlant, trais domestig neu briodas dan orfod. Efallai y byddwch yn dal i allu cael cyfieithydd ar gyfer mathau eraill o achosion, ond dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ni allwch fforddio talu am gyfieithydd eich hun
  • nid ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol
  • nid oes gennych ffrind neu aelod o’r teulu y mae’r barnwr yn dweud y gall weithredu fel eich cyfieithydd

Tribiwnlysoedd

Ar gyfer rhai tribiwnlysoedd, bydd angen i chi ofyn am gyfieithydd pan fyddwch chi’n llenwi eich ffurflen apêl. Neu gallwch gysylltu â’ch swyddfa tribiwnlys leol cyn eich gwrandawiad i ofyn am gyfieithydd.

Llysoedd Troseddol

Byddwch yn cael cyfieithydd os mai chi yw’r diffynnydd. Gallwch gysylltu â’r llys lle bydd eich achos yn cael ei wrando i wirio a yw cyfieithydd wedi’i drefnu.

Bydd angen i chi ofyn i gyfreithiwr yr amddiffyniad ddod o hyd i gyfieithydd i chi os ydych chi’n dyst i’r amddiffyniad.

Bydd yr asiantaeth erlyn (er enghraifft, Gwasanaeth Erlyn y Goron) yn dod o hyd i gyfieithydd i chi os ydych chi’n dyst i’r erlyniad.