Anfon Ffurflen TAW
Cyflwynwch eich Ffurflen TAW a thalu’ch bil TAW
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW:
-
drwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu sy’n cydweddu â’r cynllun ‘Troi Treth yn Ddigidol’ (yn Saesneg)
-
drwy ddefnyddio eich cyfrif TAW ar-lein - dim ond os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn Saesneg)
Dim ond os oes gennych eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW (yn Saesneg) y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy’r post neu ddull arall.
Pryd y gallwch gyflwyno Ffurflen TAW ar bapur
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur dim ond os:
-
rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
-
na allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd lle’r ydych yn byw
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i gael gwybod sut i gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur. Gallwch gael help gyda chyflwyno’ch Ffurflen TAW (yn Saesneg) a deall TAW.
Gall CThEF godi cosb arnoch hyd at £400 os byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW ar bapur ac nad ydych yn gymwys.
Os yw’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur, oni bai bod gennych un o’r canlynol:
Os oes gennych y naill drefniant neu’r llall, gallwch ddewis i gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar bapur neu ar-lein.
Talu eich bil TAW
Mae’n rhaid i chi dalu TAW i CThEF drwy ddull electronig, er enghraifft drwy Ddebyd Uniongyrchol neu fancio ar y rhyngrwyd.
Os na allwch dalu’ch bil TAW, cysylltwch â CThEF.