Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
Cymhwystra ar gyfer rhieni biolegol
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), mae’n rhaid i’r ddau riant:
-
rhannu cyfrifoldeb am y plentyn ar ei enedigaeth
-
bodloni meini prawf gwaith a thâl - mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar ba riant sydd am ddefnyddio’r absenoldeb a’r tâl ar y cyd i rieni
Nid ydych yn gymwys os gwnaethoch ddechrau rhannu’r cyfrifoldeb am y plentyn ar ôl iddo gael ei eni.
Mae’r meini prawf cymhwystra’n wahanol os ydych yn rhieni mabwysiadol neu rieni sy’n defnyddio mam fenthyg.
Gallwch wirio a allwch gael SPL ac ShPP (yn agor tudalen Saesneg). Bydd angen i chi wybod y canlynol:
-
dyddiad disgwyl neu ddyddiad geni eich plentyn
-
eich statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) a’ch enillion chi a statws ac enillion eich partner
-
p’un a allwch chi a’ch partner gael Tâl Mamolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg) neu Dâl Tadolaeth Statudol (yn agor tudalen Saesneg)
Os yw’r ddau riant am rannu’r SPL a’r ShPP
Rhaid i’r ddau riant fodloni’r un meini prawf cymhwystra i gael SPL ac ShPP. Mae’n rhaid i chi:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyda’r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i chi fod yn ‘gyflogeion’ (nid ‘gweithwyr’) – gwiriwch eich statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r naill neu’r llall ohonoch yn ‘weithiwr’, efallai y gallwch rannu ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r naill a’r llall ohonoch ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os yw partner y fam eisiau cymryd yr SPL a’r ShPP
Er mwyn i bartner y fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i’r fam:
-
bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
-
bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf ar draws unrhyw 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch at ei gilydd yr wythnosau pan dalwyd y symiau uchaf – nid oes angen iddynt fod yn olynol)
Mae’n rhaid i bartner y fam:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyda’r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r partner fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r partner yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r partner ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd.
Os yw’r fam eisiau cymryd yr SPL a’r ShPP
Er mwyn i’r fam gymryd SPL ac ShPP, mae’n rhaid i’r fam a phartner y fam fodloni rhai gofynion o ran cymhwystra.
Mae’n rhaid i bartner y fam:
-
bod wedi gweithio am o leiaf 26 wythnos allan o’r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni (nid oes angen i’r 26 wythnos fod yn olynol)
-
bod wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf yn ystod 13 o’r 66 wythnos (ychwanegwch yr wythnosau sy’n talu fwyaf - nid oes angen iddynt for yn olynol)
Mae’n rhaid i’r fam:
-
bod wedi’ch cyflogi’n barhaol gan yr un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos, erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad dyledus
-
aros gyda’r un cyflogwr tan o leiaf yr wythnos cyn i chi ddechrau’ch SPL
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, mae’n rhaid i’r fam fod yn ‘gyflogai’ (nid ‘gweithiwr’) – gwiriwch ei statws cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Os yw’r fam yn ‘weithiwr’, efallai y bydd yn gallu cael ShPP ond nid SPL.
I fod yn gymwys ar gyfer ShPP, mae’n rhaid i’r fam ennill o leiaf £125 yr wythnos ar gyfartaledd.