Gwneud cais am absenoldeb a thâl

I gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) neu Dâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP), mae’n rhaid i chi:

  • dilyn y rheolau ar gyfer dechrau SPL ac ShPP
  • rhoi o leiaf 8 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr o ddyddiadau eich absenoldeb

Gallwch ddefnyddio ffurflenni a thempledi Absenoldeb ar y Cyd i Rieni a grëwyd gan Acas i:

  • rhoi rhybudd i’ch cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd SPL ac ShPP
  • rhoi rhybudd i’ch cyflogwr pryd y bydd yr unigolyn, boed y fam neu’r mabwysiadwr, yn dod â’i absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben, a phryd y bydd yn rhoi’r gorau i gael tâl mamolaeth neu fabwysiadu
  • trefnu dyddiadau eich absenoldeb

Os oes gan eich cyflogwr ei ffurflenni ei hun, gallwch ddefnyddio’r rheini yn lle.

Gallwch newid eich meddwl yn nes ymlaen am faint o SPL neu ShPP rydych yn bwriadu ei gymryd a phryd rydych am ei gymryd. Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o unrhyw newidiadau o leiaf 8 wythnos cyn dechrau unrhyw absenoldeb.

Efallai na fyddwch yn cael SPL neu ShPP os nad ydych yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.

Rhoi rhagor o wybodaeth

Gall eich cyflogwr ofyn i chi am ragor o wybodaeth cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi wneud cais am SPL neu ShPP. Gall ofyn am:

  • copi o’r dystysgrif geni
  • datganiad o’r man geni a’r dyddiad geni (os nad yw’r enedigaeth wedi’i chofrestru eto)
  • enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner neu ddatganiad nad oes gan eich partner gyflogwr

Os ydych chi’n mabwysiadu neu’n maethu plentyn rydych chi’n bwriadu ei fabwysiadu, gall eich cyflogwr ofyn am:

  • enw a chyfeiriad yr asiantaeth fabwysiadu neu’r awdurdod lleol
  • y dyddiad y cawsoch eich paru â’r plentyn
  • y dyddiad y bydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi
  • enw a chyfeiriad cyflogwr eich partner neu ddatganiad nad oes gan eich partner gyflogwr

Mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth hon cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad y gofynnir i chi amdani.