Trefnu blociau o absenoldeb

Gallwch drefnu hyd at 3 bloc ar wahân o Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) yn hytrach na chymryd y cyfan ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych yn rhannu’r absenoldeb gyda’ch partner.

Os yw’ch partner hefyd yn gymwys ar gyfer SPL, gallwch gymryd hyd at 3 bloc o absenoldeb yr un. Gallwch gymryd absenoldeb ar wahanol adegau neu ar yr un pryd.

Gallwch gymryd mwy na 3 bloc o absenoldeb, os yw’ch cyflogwr yn cytuno.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am eich cynlluniau ar gyfer absenoldeb pan fyddwch yn gwneud cais am SPL. Gallwch newid y cynlluniau hyn yn nes ymlaen, ond mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr cyn yr hoffech ddechrau bloc o absenoldeb.

Gallwch wirio pryd y gallwch chi a’ch partner gymryd eich absenoldeb gan ddefnyddio’r offeryn cynllunio Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.

Rhannu blociau o absenoldeb

Os bydd eich cyflogwr yn cytuno, gallwch rannu blociau’n gyfnodau byrrach o wythnos o leiaf.

Enghraifft

Mae mam yn gorffen ei chyfnod mamolaeth ddiwedd mis Hydref ac yn cymryd gweddill ei habsenoldeb fel SPL. Mae hi’n ei rannu gyda’i phartner, sydd hefyd yn gymwys. Maent yn cymryd mis Tachwedd cyfan fel eu blociau cyntaf o SPL. Yna mae’r partner yn dychwelyd i’r gwaith.

Mae’r fam hefyd yn dychwelyd i’r gwaith ym mis Rhagfyr. Mae hi’n rhoi rhybudd i’w chyflogwr y bydd yn mynd ar absenoldeb eto ym mis Chwefror – dyma ei hail floc o SPL. Mae ei chyflogwr yn cytuno ar batrwm gwaith o bythefnos ymlaen, bythefnos i ffwrdd yn ystod y bloc.

Diwrnodau ‘Cadw mewn cysylltiad yn ystod Absenoldeb ar y Cyd i Rieni’ (SPLIT)

Gallwch chi a’ch partner weithio hyd at 20 diwrnod tra byddwch yn cymryd SPL. Gelwir y rhain yn ddiwrnodau ‘Cadw mewn cysylltiad yn ystod Absenoldeb ar y Cyd i Rieni’ (SPLIT).

Mae’r diwrnodau hyn yn ychwanegol at y 10 diwrnod ‘cadw mewn cysylltiad’ (neu KIT) sydd ar gael i’r rheini sydd ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu.

Mae diwrnodau KIT a SPLIT yn ddewisol – mae’n rhaid i chi a’ch cyflogwr gytuno arnynt.