Canllawiau

Hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth ar eich prosiect Ymchwil a Datblygu.

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn rhoi cymorth i gwmnïau sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth os yw’ch prosiect yn bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth.

Mae’r canlynol yn rhoi esboniad cryno i chi o’r diffiniad, a’r gwahanol fathau o ryddhad y mae’n bosibl y gallwch eu hawlio.

Prosiectau sy’n cyfrif fel Ymchwil a Datblygu

Mae’n rhaid i’r gwaith sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu fod yn rhan o brosiect penodol i wneud cynnydd ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg.

Ni allwch hawlio os yw’r cynnydd yn y meysydd canlynol:

  • y celfyddydau
  • dyniaethau
  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg

Mae’n rhaid i’r prosiect ymwneud â masnach eich cwmni — naill ai masnach sy’n bodoli eisoes, neu un yr ydych yn bwriadu ei chychwyn yn seiliedig ar ganlyniadau’r Ymchwil a Datblygu.

Er mwyn hawlio, mae angen i chi esbonio sut oedd y prosiect:

  • wedi chwilio am gynnydd yn y maes
  • wedi gorfod datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol
  • wedi ceisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol
  • yn un nad oedd gweithiwr proffesiynol yn y maes yn gallu ei ddatrys yn hawdd

Gall eich prosiect ymchwilio neu ddatblygu proses, cynnyrch neu wasanaeth newydd, neu wella un sy’n bodoli eisoes.

Manylion y prosiect

Cynnydd yn y maes

Mae’n rhaid i’ch prosiect anelu at greu cynnydd yn y maes yn gyffredinol, nid yn unig ar gyfer eich busnes.

Gall y broses, y cynnyrch neu’r gwasanaeth fod yn gynnydd hyd yn oed os mai cwmni arall sy’n gyfrifol am y cam ymlaen, ond nid yw’n hysbys nac ar gael i’r cyhoedd.

Dangos bod ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol

Mae ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol yn bodoli pan na all eich cwmni neu arbenigwr ar y pwnc ddangos os yw rhywbeth yn dechnolegol bosibl, neu sut y gellir ei wneud, hyd yn oed ar ôl cyfeirio at yr holl dystiolaeth sydd ar gael.

Mae hyn yn golygu na all eich cwmni neu arbenigwyr yn y maes wybod yn barod am y cynnydd neu’r ffordd i’w ddatrys.

Eglurwch sut y gwnaethoch geisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol

I roi gwybod i CThEF sut y gwnaethoch geisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, dylech ddangos bod angen i’r Ymchwil a Datblygu ymgymryd ag ymchwil, profi a dadansoddi er mwyn ei ddatblygu.

Mae angen i chi allu esbonio’r gwaith a wnaethoch i ddatrys yr ansicrwydd. Gall hyn fod yn ddisgrifiad syml o’r llwyddiannau a’r methiannau y cawsoch yn ystod y prosiect.

Dangos nad oedd gweithiwr proffesiynol yn y maes yn gallu ei ddatrys

Dylech esbonio pam nad oedd gweithiwr proffesiynol yn y maes yn gallu datrys eich cynnydd yn hawdd. Gallwch wneud hyn drwy ddangos bod ymdrechion eraill i ddatrys y sefyllfa wedi methu.

Gallwch hefyd ddangos bod y bobl sy’n gweithio ar eich prosiect yn weithwyr proffesiynol yn y maes hwn, a gallant egluro’r ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol sy’n gysylltiedig â’r prosiect.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, ewch ati i wirio’r canlynol:

Mathau o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu — cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024

Mae 2 fath gwahanol o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, yn dibynnu ar faint eich cwmni ac a yw’r prosiect wedi’i is-gontractio i chi, neu ei fod yn cael cymhorthdal, neu’r ddau.

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) ar gyfer menter bach a chanolig (MBaCh)

Gallwch hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu MBaCh os ydych yn MBaCh a bod gennych y ddau beth canlynol:

  • llai na 500 o staff
  • trosiant o lai na 100 miliwn ewro neu gyfanswm y fantolen o dan 86 miliwn ewro

Bydd angen i chi gynnwys mentrau cysylltiedig a mentrau sy’n bartneriaid pan fyddwch yn gweithio allan a ydych yn MBaCh.

Ar gyfer gwariant cymhwysol a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gallwch hawlio’r gyfradd credyd treth uwch o 14.5% os ydych yn bodloni’r amod dwyster gyda dwyster Ymchwil a Datblygu o 40% o leiaf.

Credyd gwariant Ymchwil a Datblygu

Gall cwmnïau mawr hawlio credyd gwariant am weithio ar brosiectau Ymchwil a Datblygu.

Gall MBaChau sydd wedi cael eu his-gontractio i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu gan gwmni mawr, neu sydd wedi cael cymhorthdal ar gyfer gwariant, ei hawlio hefyd.

Mathau o ryddhad treth Ymchwil a Datblygu — cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024

Mae un cynllun cyfun ar gyfer pob cwmni.

Hefyd mae cynllun ychwanegol gyda sail fwy hael o gyfrifo ar gyfer y MBaChau sydd ag Ymchwil a Datblygu dwys ac sy’n gwneud colled yn unig.

Mae’r rheolau gwariant yr un peth ar gyfer y ddau fath o ryddhad. Lle bo gwaith yn cael ei wneud dan gontract, yn gyffredinol, y parti a gychwynnodd y prosiect Ymchwil a Datblygu yw’r parti a all hawlio.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ryddhad treth Ymchwil a Datblygu: y cynllun cyfun a chymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (yn agor tudalen Saesneg).

Cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu

Gall cwmni o unrhyw faint sy’n gwneud gwaith Ymchwil a Datblygu cymhwysol hawlio o dan y cynllun cyfun.

Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys

Mae cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn cael ei gyfrifo yn yr un modd â’r cynllun MBaChau cyn 1 Ebrill 2024.

Gallwch hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • rydych yn MBaCh sydd â’r canlynol:

    • llai na 500 o staff 
    • trosiant o lai na 100 miliwn ewro neu gyfanswm y fantolen o dan 86 miliwn ewro 
  • rydych yn gwneud colled masnachu at ddibenion treth cyn cyfrifo rhyddhad 

  • rydych yn bodloni’r amod dwyster Ymchwil a Datblygu, gyda dwyster Ymchwil a Datblygu o 30% o leiaf

Mae’r un rheolau gwariant yn berthnasol ag ar gyfer y cynllun cyfun.

Cyn i chi hawlio

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn cyn i chi hawlio naill ai rhyddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg), neu mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn ddilys.

  1. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gwiriwch a oes angen i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad cyn i chi wneud hynny. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu pan fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

  2. O 08 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad. Dysgwch ba wybodaeth y mae angen i chi ei chyflwyno, a phryd a sut i wneud hynny.

Cyhoeddwyd ar 1 January 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 May 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information on types of Research and Development (R&D) tax reliefs for accounting periods beginning before 1 April 2024, and on or after 1 April 2024 have been updated.

  3. Added a link to what work qualifies as R&D for tax purposes.

  4. The information about when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.

  5. Updates have been made throughout this guidance to clarify what R&D tax reliefs are and the projects that count as R&D. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim R&D tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  6. Updated to show the Research and Development Expenditure Credit will increase to 13% of qualifying research and development expenditure from 1 April 2020.

  7. The guidance has been updated to show new rates for 2018.

  8. The guidance has been updated to show who can make an amended claim to tax relief for reimbursed expense, and how to make a claim.

  9. The link free pre-recorded webinar in Further information section has been updated.

  10. A new pre-recorded webinar for R&D Advance Assurance has been added to this page.

  11. A new pre-recorded webinar giving an overview on Advance Assurance has been added to this page.

  12. This guide has been shortened to give overall guidance to R&D tax relief. Two new guides have been published in addition to give R&D more specific R&D guidance. One is for large company guidance and the other for small to medium enterprises.

  13. This guidance has been updated to include information about R&D Advance Assurance.

  14. First published.