Stori newyddion

Ffeilio eich cyfrifon yn gynnar ym mis Rhagfyr i osgoi cosb

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur.

Deall eich cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon eu cwmni, a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser. Mae’n bwysig deall eich rôl a sut y gallai ffeilio hwyr effeithio ar eich cwmni.

Gallai methu eich dyddiad cau ffeilio effeithio ar eich sgôr credyd neu fynediad at gyllid. Gall effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar eich cwmni ac os ydynt am wneud busnes gyda chi. Mae cosbau ariannol a chanlyniadau cyfreithiol hefyd - gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwyso.

Os ydych chi’n cyflogi cyfrifydd i ffeilio cyfrifon eich cwmni, eich cyfrifoldeb chi o hyd, fel cyfarwyddwr, yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.

Defnyddio llwybrau ffeilio digidol

Mae dros 65% o gwmnïau’n defnyddio ffeilio meddalwedd fel eu dull dewisol.

Mae amrywiaeth o ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig ystod o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon. Gellir ffeilio’r rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio.

Os ydych yn ffeilio gan ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru’ch cyfrifon.

Ffeilio cyfrifon eich cwmni ar-lein cyn eich dyddiad cau.

I ffeilio ar-lein, efallai y bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Osgoi gwrthod

Dylech anfon cyfrifon papur dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein neu drwy feddalwedd.

Mae angen gwirio cyfrifon a ffeiliwyd ar bapur â llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa y gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i’w prosesu.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro’ch cyfrifon a’u hail-anfon os cânt eu gwrthod.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn anfon yr holl ddogfennau i swyddfa gywir Tŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw oedi, gan y gellir ailgyfeirio eich dogfennau a byddant yn cymryd mwy o amser i’n cyrraedd.

Dylech ystyried defnyddio dosbarthiad gwarantedig y diwrnod nesaf a nodi unrhyw anghydfodau diwydiannol neu ffactorau eraill, a allai ei gwneud hi’n anodd i gludwr gyflawni ar amser.

Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.

Newidiadau i gyfraith cwmnïau’r DU

Ar 26 Hydref 2023, cafodd y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Dyma un o’r adegau mwyaf arwyddocaol i Dŷ’r Cwmnïau yn ein hanes hir.

Fel cyfarwyddwr, mae’n bwysig eich bod yn deall sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi a’ch cwmni. Mae rheolau newydd ar gyfer pob cwmni, gan gynnwys newidiadau i’r ffordd rydych chi’n ffeilio eich cyfrifon blynyddol.

Arweiniad a chefnogaeth

Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost i wybod pryd mae’ch cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein gwasanaeth Dod o hyd i wybodaeth am gwmni a’i diweddaru.

Gwyliwch ein fideos YouTube am arweiniad ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

Mwy o wybodaeth am:

Cyhoeddwyd ar 30 November 2023