Stori newyddion

Anogir cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn gynnar er mwyn osgoi cosbau

Os ydych i fod i ffeilio eich cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi, caniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau.

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon blynyddol i ni bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur.

Deall eich cyfrifoldebau

Gall rhedeg eich cwmni eich hun fod yn gyffrous ond hefyd yn heriol. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys diweddaru cofnodion cwmni a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser. Mae angen i chi ddeall eich rôl fel cyfarwyddwr, pwysigrwydd parhau i gydymffurfio a sut y gallai ffeilio hwyr effeithio ar eich cwmni.

Gallai methu eich dyddiad cau ffeilio effeithio ar eich sgôr credyd neu fynediad at gyllid. Gall effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar eich cwmni ac a ydynt am wneud busnes gyda chi. Mae cosbau ariannol a chanlyniadau cyfreithiol hefyd - gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwyster.

Hyd yn oed os yw cyfrifydd yn ffeilio cyfrifon eich cwmni ar eich rhan, eich cyfrifoldeb chi o hyd, fel cyfarwyddwr, yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.

Ffeilio ar-lein

Os ydych yn ffeilio gan ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru eich cyfrifon.

Ffeilio cyfrifon eich cwmni ar-lein cyn eich dyddiad cau.

I ffeilio ar-lein, efallai y bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi gwneud cais am god newydd, dylech ganiatáu hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.

Ffeilio trwy feddalwedd

Mae dros 65% o gwmnïau’n defnyddio ffeilio meddalwedd fel eu dull dewisol. Mae amrywiaeth o ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig ystod o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon. Gellir ffeilio’r rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio.

Yn y dyfodol, fel rhan o ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol, dim ond gan ddefnyddio meddalwedd y byddwch yn gallu ffeilio eich cyfrifon. Mae hyn yn golygu na fyddwch bellach yn gallu ffeilio cyfrifon ar bapur neu ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Darganfyddwch fwy am ffeilio trwy feddalwedd yn unig.

Ar ôl i’r Bil ennill Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf, byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r newid i ffeilio trwy feddalwedd yn unig yn raddol. Byddwn yn sicrhau os nad ydych eisoes yn ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd, mae gennych amser i wneud y newid cyn ei fod yn ofyniad cyfreithiol.

Osgoi gwrthodiad

Dylech anfon cyfrifon papur dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein neu drwy feddalwedd. Mae angen gwirio cyfrifon a ffeiliwyd ar bapur â llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i’w prosesu.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro’ch cyfrifon a’u hail-anfon os cânt eu gwrthod.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn anfon yr holl ddogfennau i swyddfa gywir Tŷ’r Cwmnïau. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw oedi, gan y gellir ailgyfeirio eich dogfennau a byddant yn cymryd mwy o amser i’n cyrraedd.

Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.

Cyfarwyddyd a chefnogaeth

Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost i wybod pryd mae eich cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein Gwasanaeth dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth eich cwmni.

Gwyliwch ein fideos YouTube am gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

Rhagor o wybodaeth am:

Cyhoeddwyd ar 23 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 August 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.