Canllawiau

Cyflogres: talu treuliau a buddiannau'ch cyflogeion drwy’ch cyflogres

Sut i roi gwybod am y treuliau a’r buddiannau yr ydych yn eu darparu i'ch cyflogeion neu gyfarwyddwyr.

Sut i gofrestru i dalu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres

Os ydych yn bwriadu talu unrhyw dreuliau a buddiannau drwy’r gyflogres, mae’n rhaid i chi eu cofrestru â Chyllid a Thollau EM gan ddefnyddio’r gwasanaeth talu buddiannau a threuliau trethadwy cyflogeion drwy’r gyflogres. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn dechrau’r flwyddyn dreth.

Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres, ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM pa fuddiannau yr ydych am eu talu drwy’r gyflogres yn ystod y broses gofrestru.

Bydd cod treth pob cyflogai sy’n cael y buddiannau hyn yn cael ei newid, oni bai eich bod yn eithrio cyflogeion nad ydych chi eisiau talu eu buddiannau drwy’r gyflogres gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru, ni fyddwch yn gallu talu buddiannau drwy’r gyflogres tan y flwyddyn dreth ganlynol.

Sut i ddadgofrestru o’r gwasanaeth ar-lein

Mae’ch cofrestriad yn barhaus, felly does dim ond angen i chi roi gwybod i CThEM os ydych yn penderfynu dadgofrestru. Gallwch wneud hyn cyn dechrau’r flwyddyn dreth drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Os yw’r flwyddyn dreth wedi dechrau pan fyddwch yn newid eich meddwl, mae’n rhaid i chi aros tan ddiwedd y flwyddyn dreth cyn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gyflogres. Mae dal yn rhaid i chi ddidynnu treth bob diwrnod cyflog a rhoi gwybod i CThEM am hyn.

Buddiannau y gallwch eu talu drwy’r gyflogres

Gallwch dalu pob buddiant drwy’r gyflogres oni bai am y canlynol:

  • llety preswyl a ddarperir gan y cyflogwr
  • benthyciadau llog isel a di-log (buddiannol)

Mae dal yn rhaid i chi nodi’r buddiannau hyn ar ffurflen P11D, hyd yn oed os ydych yn talu buddiannau eraill drwy’r gyflogres ar gyfer yr un cyflogeion.

Os byddwch yn dewis talu buddiannau ceir cwmni drwy’r gyflogres, ni fydd angen i chi gyflwyno ffurflen P46(Car). Fodd bynnag, os nad yw’r buddiant yn cael ei dalu drwy’r gyflogres, mae’n rhaid i chi gyflwyno P46(Car) (yn agor tudalen Saesneg).

Rhoi gwybod i’ch cyflogeion

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i dalu buddiannau drwy’r gyflogres, bydd yn rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i’ch cyflogeion yn esbonio eich bod yn talu buddiannau drwy’r gyflogres a beth mae hynny’n ei olygu iddynt. Gallwch ddewis gwneud hyn, er enghraifft, drwy’r canlynol:

  • slipiau cyflog
  • e-byst
  • llythyrau

Mae’n rhaid i chi anfon yr hysbysiad erbyn 1 Mehefin ar ôl diwedd pob blwyddyn dreth. Mae’n rhaid i’r hysbysiad roi gwybod i’ch cyflogeion na fyddant yn cael eu trethu ddwywaith oherwydd eich bod wedi cofrestru i dalu eu buddiannau drwy’r gyflogres gyda CThEM cyn dechrau’r flwyddyn dreth newydd. Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion y buddiannau rydych wedi’u talu drwy’r gyflogres, er enghraifft tanwydd ceir – gall hyn gynnwys beth yw’r buddiannau, y gwerth, y cyfwerth mewn arian parod a pha rai sydd wedi bod yn agored i dreth TWE
  • y swm rydych wedi’i dalu drwy’r gyflogres ar gyfer Trefniadau Tâl Opsiynol (OpRA)
  • manylion y buddiannau nad ydych wedi’u talu drwy’r gyflogres

Dylech hefyd roi gwybod i’ch cyflogeion beth fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd angen iddynt wybod y canlynol:

  • bydd eu cod treth yn newid i dynnu’r addasiad ar gyfer eu buddiannau
  • byddwch yn rhoi’r swm sydd wedi’i addasu drwy’r gyflogres bob mis a byddant yn talu treth ar y swm hwnnw
  • ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn rhoi gwybod iddynt faint o fuddiant trethadwy y maent wedi’i gael yn ystod y flwyddyn a beth oedd ei bwrpas

Cyflogeion newydd

Os oes gennych gyflogai newydd a’ch bod yn rhoi buddiant iddo a fydd yn cael ei dalu drwy’r gyflogres, mae’n rhaid i chi egluro sut y bydd y buddiant hwnnw’n cael ei drethu.

Rhowch wybod i’r cyflogai:

  • efallai y bydd ei god treth yn cael ei newid er mwyn addasu unrhyw fuddiannau o gyflogaethau blaenorol
  • ni fydd y buddiant newydd yn cael ei gynnwys yn ei god treth
  • bydd unrhyw dreth heb ei thalu, sydd efallai’n cael ei thalu drwy ddefnyddio cod treth presennol y cyflogai, yn dal yn cael ei chasglu drwy’r cod treth

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A

Bydd dal i fod angen i chi gyfrifo’r CYG Dosbarth 1A ar yr arian parod cyfatebol (neu’r swm perthnasol at ddibenion OpRA) a llenwi ffurflen P11D(b). Mae CYG Dosbarth 1A yn gymwys p’un a ydych yn talu’r buddiannau drwy’r gyflogres neu’n rhoi gwybod amdanynt i CThEM ar ffurflen P11D.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r buddiannau yr ydych yn eu darparu drwy gydol y flwyddyn dreth, fel bod modd i chi roi gwybod ynghylch a chyflwyno’ch ffurflen P11D(b) a’r taliad CYG Dosbarth 1A yn gywir. Mae’n rhaid gwneud hyn erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno ffurflen P11D(b) ar gael yn CWG5: Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (yn agor tudalen Saesneg).

Enghraifft: mae’r cyflogwr eisiau talu buddiant yswiriant iechyd ei gyflogeion drwy’r gyflogres

Mae’n talu £600 y flwyddyn ar gyfer pob cyflogai am hyn. Mae’n rhoi gwybod i’w gyflogeion ei fod am dalu’r buddiant hwn drwy’r gyflogres.

Mae’n cofrestru gyda’r gwasanaeth ar-lein ac yn dewis buddiant meddygol fel y buddiant y mae am ei dalu drwy’r gyflogres.

Bydd codau treth ei gyflogeion yn newid yn awtomatig er mwyn tynnu’r addasiad ar gyfer y buddiant hwn - rhoddir gwybod i’r cyflogeion gan CThEM.

Yn ystod y flwyddyn dreth, bydd y cyflogwr yn cyfrifo’r swm trethadwy ar gyfer y buddiant ac yn ychwanegu hwn at gyflog misol gwirioneddol y cyflogeion.

Rhennir y gost flynyddol rhwng nifer y diwrnodau cyflog yn ystod y flwyddyn, a bydd y cyflogeion yn talu treth ar y swm hwn. Gellir cyfrifo hwn fel a ganlyn:

£600 ÷ 12 = £50 y mis

Sut i gyfrifo’r arian parod cyfatebol

Rydych yn cyfrifo’r arian parod cyfatebol ar gyfer buddiant yn yr un modd ag y byddech yn ei wneud ar gyfer buddiant yr ydych yn ei gofnodi ar ffurflen P11D.

Os nad ydych yn siŵr beth yw gwerth y buddiant ar ddechrau’r flwyddyn dreth, gallwch amcangyfrif yr arian parod cyfatebol ar gyfer y buddiant. Gallwch ei addasu’n nes ymlaen yn ystod y flwyddyn pan fyddwch yn gwybod yr union werth.

Gallwch ddefnyddio’r canlynol i gyfrifo arian parod cyfatebol y buddiannau yr ydych yn eu darparu:

Ceir diesel sy’n cydymffurfio â RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d) ar gyfer y flwyddyn dreth 2018 i 2019

Os yw’r car diesel cwmni’n cydymffurfio â RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d), mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ganran briodol ar gyfer ‘Math o Danwydd A – Pob car arall’ pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo’r arian parod cyfwerth ar gyfer y buddiant car a’r tâl buddiant tanwydd car
  • rhowch wybod am geir diesel cwmni sy’n cydymffurfio â RDE2 (a adwaenir hefyd fel Euro 6d) ar ffurflenni P11D neu P46 (Car)

Os ydych wedi cofrestru i dalu’r buddiant car a’r tâl buddiant tanwydd car drwy’r gyflogres, dylech gyfrifo’r arian parod cyfwerth gan ddefnyddio’r ganran briodol ar gyfer ‘Math o Danwydd A’ ac yna:

  • nodi hyn ym Mlwch 182 o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn
  • nodi ‘A’ ym Mlwch 177 o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn

Trefniadau cydnabyddiaeth opsiynol (OpRA), a elwir hefyd yn aberthu cyflog

OpRA yw pan fydd cyflogai’n ildio’r hawl i gael swm o enillion (a elwir yn aberthu cyflog, fel arfer) yn gyfnewid am fuddiant nad yw ar ffurf arian.

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, os ydych yn sefydlu OpRA newydd, bydd angen i chi gyfrifo gwerth y buddiant nad yw ar ffurf arian drwy ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol, p’un bynnag sydd uchaf:

Nid yw’r rheolau newydd yn gymwys i:

  • taliadau i gynlluniau pensiwn
  • cyngor ar bensiynau a roddir gan y cyflogwr
  • talebau gofal plant, meithrinfeydd yn y gweithle, a gofal plant sy’n cael ei gontractio gan y cyflogwr
  • cynllun beicio i’r gwaith
  • ceir gydag allyriadau CO2 o 75g/km neu lai

OpRA a sefydlwyd cyn 6 Ebrill 2017

Os gwnaethoch sefydlu OpRA gyda chyflogai cyn 6 Ebrill 2017, gallwch barhau i gyfrifo gwerth y buddiant (yn agor tudalen Saesneg) fel yr oeddech yn ei wneud o’r blaen.

Bydd y rhan fwyaf o drefniadau’n amodol ar y rheolau newydd o 6 Ebrill 2018 ymlaen, oni bai eu bod yn cael eu hamrywio, eu hadnewyddu neu eu haddasu cyn y dyddiad hwnnw.

Pan mai darparu car gydag allyriadau o fwy na 75g CO2/km, llety byw neu ffioedd ysgol yw’r buddiant, mae’r rheolau trosiannol yn gymwys am gyfnod hwy. Ni fydd y rheolau newydd yn gymwys tan 6 Ebrill 2021.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am OpRA ac Aberthu Cyflog (yn agor tudalen Saesneg).

O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd deddfwriaeth TWE yn caniatáu i gyflogwyr dalu symiau perthnasol drwy’r gyflogres o dan drefniadau o’r fath.

Enghraifft: Mae Peter yn dechrau swydd newydd ar 10 Ebrill 2018, ac yn aberthu rhan o’i gyflog yn gyfnewid am fuddiant meddygol.

£500 yw’r gost i’r cyflogwr, ond mae angen i Peter aberthu £600 o’i gyflog yn gyfnewid am y buddiant. £600 yw’r ‘swm a aberthir’.

O dan y rheolau newydd, yr arian parod cyfatebol neu’r arian a aberthir, p’un bynnag sydd uchaf, yw’r swm perthnasol at ddibenion didyniadau treth TWE.

Felly, yn achos Peter, mae’r cyflogwr (sydd wedi cofrestru cyn hyn i dalu buddiannau drwy’r gyflogres) yn cyfrifo’r didyniadau treth TWE ar y £600, sef y ‘swm trethadwy’, ac yn eu cyflwyno drwy ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI).

Rhaid cynnwys y swm trethadwy ar:

  • y P60 ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o ‘gyfanswm y cyflog trethadwy yn y flwyddyn’
  • unrhyw P45 yn y blwch ‘cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yma’

Cyfnodau talu a ddefnyddir i dalu’r swm trethadwy drwy’r gyflogres

Er mwyn cyfrifo swm trethadwy’r buddiant yr ydych yn ei dalu drwy’r gyflogres bob diwrnod cyflog, mae angen i chi wybod nifer y dyddiau yr ydych yn disgwyl talu’ch cyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth. Mae nifer y diwrnodau cyflog yn dibynnu ar y bwlch rhwng pob diwrnod cyflog (y cyfnod cyflog). Caiff y rhan fwyaf o gyflogeion eu talu bob wythnos, bob mis calendr neu bob 4 wythnos.

Enghraifft: mae gan gyflogai gar cwmni sydd ag arian parod cyfatebol o £5,200

Caiff y cyflogai ei dalu bob wythnos (52 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 52 = £100. Wedyn mae’r cyflogwr yn ychwanegu £100 at gyflog trethadwy’r cyflogai bob diwrnod cyflog.

Caiff y cyflogai ei dalu bob mis (12 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 12 = £433.33. Wedyn mae’r cyflogwr yn ychwanegu £433.33 at gyflog trethadwy’r cyflogai bob diwrnod cyflog.

Caiff y cyflogai ei dalu bob pedair wythnos (13 o ddiwrnodau cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 13 = £400. Wedyn mae’r cyflogwr yn ychwanegu £400 at gyflog trethadwy’r cyflogai bob diwrnod cyflog.

Cyfnodau talu afreolaidd

Ystyr cyfnodau talu afreolaidd yw incwm cyflogaeth sy’n cael ei dalu heb batrwm penodedig. Er mwyn cyfrifo swm trethadwy’r buddiant, rhannwch yr arian parod cyfatebol â 365, wedyn lluosi hwnnw â nifer y diwrnodau rhwng dechrau’r flwyddyn dreth a dyddiad y cyfnod cyflog.

Enghraifft: caiff car cwmni ei ddarparu i gyflogai, sydd ag arian parod cyfatebol o £5,200 ar gyfer y flwyddyn dreth

Caiff y cyflogai ei dalu ar 31 Mai, sydd 56 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn dreth.

£5,200 ÷ 365 x 56 diwrnod = £797.80 i’w ychwanegu at y cyflog trethadwy yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y tro nesaf y byddwch yn talu’ch cyflogai, cyfrifwch y cyfnod y cafodd y buddiant ei ddarparu o’r dyddiad y talwyd eu cyflog diwethaf, yn hytrach nag o ddechrau’r flwyddyn dreth.

Sut i ddidynnu neu ad-dalu treth

Rydych yn ychwanegu swm trethadwy’r buddiant at gyflog eich cyflogai er mwyn gallu didynnu’r swm cywir o dreth.

Enghraifft: mae cyflogai’n ennill £24,000 y flwyddyn, yn cael ei dalu bob mis ac mae ganddo gar cwmni sydd ag arian parod cyfatebol o £5,200

Cyn ei dalu drwy’r gyflogres, cyflog misol trethadwy’r cyflogai yw £2,000 (£24,000 ÷ 12 = £2,000).

Swm trethadwy’r buddiant car bob diwrnod cyflog yw £433.33 (£5,200 ÷ 12 = £433.33 ).

Cyfanswm cyflog trethadwy’r cyflogai pan gaiff ei dalu drwy gyflogres yw £2,433.33 (£2,000 + £433.33 = £2,433.33).

Ar ôl i gyfanswm y cyflog a swm trethadwy’r buddiant gael eu nodi ar y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), dylid cyfrifo’r dreth TWE

Cyflogai’n cyfrannu tuag at gost buddiant

Efallai y bydd y cyflogwr yn cytuno bod y cyflogeion yn gallu gwneud taliadau tuag at gost buddiant. Gelwir hyn yn ‘cyfrannu’. Pan fo cyflogeion yn gwneud hyn, mae arian parod cyfatebol y buddiant yn cael ei leihau.

Os cyfrannir cost lawn y buddiant, does dim buddiant trethadwy gan fod y cyflogai wedi talu amdano.

Ni fydd unrhyw symiau a gyfrannir ar ôl 6 Gorffennaf yn cael effaith ar yr arian parod cyfatebol. Golyga hyn y bydd y buddiant yn dal i fod yn drethadwy ac yn agored i CYG, ac ni fydd modd i’r cyflogwr ei addasu.

Ar gyfer buddiannau a delir drwy’r gyflogres, mae’r canllawiau isod yn egluro beth y dylid ei wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Cyflogai’n methu â chyfrannu at fuddiant erbyn y diwrnod cyflog terfynol

Pan fo cost buddiant yn hysbys, ac nid yw’r cyflogai wedi cyfrannu erbyn y diwrnod cyflog terfynol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm trethadwy’r buddiant sy’n dal angen ei drethu
  • ychwanegu’r swm trethadwy at daliad cyflog olaf y cyflogai yn y flwyddyn dreth
  • cyfrifo’r dreth y dylid ei didynnu

Ni allwch ddidynnu’r holl dreth o’r taliad cyflog olaf os yw hynny’n fwy na 50% o’r cyflog.

Cyfrannu: buddiant tanwydd preifat ar gyfer ceir a faniau

Efallai bod gennych drefniant â’ch cyflogai lle y bydd yn cyfrannu gwir gost y tanwydd preifat er mwyn osgoi talu treth buddiant tanwydd ar gar neu fan cwmni.

Efallai na fyddwch yn gwybod faint o danwydd sydd wedi cael ei brynu erbyn diwedd y flwyddyn dreth, naill ai oherwydd:

  • eich bod yn aros i’r cyflenwr anfon y bil ar gyfer y tanwydd, neu
  • nid yw’ch cyflogai wedi bod mewn sefyllfa i gyfrifo’i filltiroedd preifat ar 5 Ebrill

Pan fyddwch yn cael gwybod beth yw gwir gost y tanwydd ar gyfer milltiroedd preifat, bydd gan eich cyflogai tan 1 Mehefin i gyfrannu’r holl gost, neu gyfran ohoni.

Os bydd eich cyflogai’n methu â gwneud hynny, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo cost y buddiant tanwydd
  • ychwanegu cost y buddiant tanwydd fel swm trethadwy at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar ôl hynny
  • cyfrifo’r swm TWE

Os bydd y buddiant yn parhau ar ôl 1 Mehefin, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ail-gyfrifo’r buddiant tanwydd car neu danwydd fan ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • cynnwys hwn fel swm trethadwy o fuddiant bob diwrnod cyflog

Gwneir hyn er mwyn osgoi sefyllfa debyg ar ddiwedd y flwyddyn dreth nesaf.

Cyfrannu: tocynnau credyd

Efallai bod gennych drefniant gyda’ch cyflogai lle y mae’n gallu defnyddio cerdyn credyd y busnes, ond ei fod yn talu am unrhyw bryniannau preifat a wnaiff â’r cerdyn.

Efallai na fyddwch yn gwybod faint y mae’ch cyflogai wedi’i wario ar nwyddau a gwasanaethau preifat gan ddefnyddio’r cerdyn credyd erbyn diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft:

  • rydych yn disgwyl i’r darparwr anfon y bil
  • efallai nad yw manylion y trafodyn gan eich cyflogai

Pan fydd y swm yn hysbys, bydd gan eich cyflogai tan 1 Mehefin i gyfrannu gwir gost y buddiant. Os bydd eich cyflogai’n methu â chyfrannu’r holl gost neu gyfran ohoni erbyn 1 Mehefin ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm y buddiant sy’n dal angen ei drethu, gan ystyried unrhyw symiau blaenorol a gyfrannwyd
  • ychwanegu’r swm at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar ôl hynny
  • talu’r costau ar gyfer defnyddio’r cerdyn credyd ym mlwyddyn 2 drwy’r gyflogres, heb ganiatáu’r addewid i gyfrannu

Enghraifft:

Mae gan gyflogai’r hawl i ddefnyddio cerdyn credyd y cwmni yn ystod y flwyddyn dreth, a £120 yw’r swm a wariwyd. Cytunwyd ar ddechrau’r flwyddyn y byddai’r cyflogai’n addo cyfrannu £30, ac mae’n gwneud hyn. Mae hynny’n golygu mai £90 yw’r swm trethadwy ar ddiwedd y flwyddyn.

Cytunodd y cyflogai hefyd ar ddechrau’r flwyddyn dreth y byddai’r cyflogwr yn codi treth o £5 y mis drwy dalu drwy’r gyflogres gan ddisgwyl buddiant. Felly, cafodd £60 o’r bil cerdyn credyd ei dalu drwy’r gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd y cyflogwr yn tynnu’r £60 a dalwyd drwy’r gyflogres o’r £90 sy’n drethadwy. Mae hyn yn golygu bod £30 ar ôl i’w drethu.

Os na fydd y cyflogai’n cyfrannu’r £30 erbyn 1 Mehefin, caiff hwnnw ei ychwanegu at y taliad cyflog nesaf ar 1 Mehefin neu ar ôl hynny.

Os yw’r cyflogai’n defnyddio’r cerdyn credyd i brynu nwyddau a gwasanaethau preifat ym mlwyddyn 2, bydd y swm cyfan yn cael ei drethu drwy’r gyflogres yn y flwyddyn honno, heb ystyried unrhyw symiau a gyfrannwyd. Mae hyn yn atal y cyflogai rhag peidio â thalu treth mewn pryd, fel ag y gwnaeth ym mlwyddyn 1.

Efallai y bydd angen i chi ail-gyfrifo’r swm trethadwy (yn agor tudalen Saesneg).

Treth y cyflogai’n fwy na 50% o’i gyflog

Ni ddylai cyflogwyr ddidynnu mwy na 50% o dreth o gyflog y cyflogai. Gelwir hyn y terfyn pennaf, ac mae’n sicrhau nad yw cyflogeion yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddigon o gyflog i dalu’u costau byw.

O dan rai amgylchiadau, gallai traul neu fuddiant gwerth uchel, wedi’i gyfuno â chyflog isel, olygu mai ychydig iawn o arian, neu ddim o gwbl, y byddai gan y cyflogai yn ei law. Gallai hyn ddigwydd pan fo’r cyflogai’n cael Tâl Salwch Statudol.

Mae gennych hawl i atal talu buddiannau drwy’r gyflogres, os oes angen, pan fo didynnu’r dreth ar gyfer y buddiant yn golygu y bydd y dreth sy’n daladwy’n fwy na 50% o gyflog clir y cyflogai.

Mae gennych 2 opsiwn:

Opsiwn 1

Gallwch eithrio’r cyflogai rhag talu drwy’r gyflogres drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os byddwch yn ei eithrio am weddill y flwyddyn dreth, bydd y buddiant y mae’n ei gael yn cael ei ailgyflwyno i’w god treth. Dylai’ch cyflogai wirio bod y cod diwygiedig yn cynnwys swm cywir y buddiant er mwyn sicrhau nad yw’n talu gormod o dreth neu ddim digon.

Bydd angen i chi anfon ffurflen P11D ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer y cyflogai sydd wedi’i eithrio. Caiff y swm ar y ffurflen P11D, ac unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i thalu drwy’r gyflogres, ei chynnwys yng nghyfrifiad treth y cyflogai ar ôl diwedd y flwyddyn.

Os ydych am ailddechrau talu drwy’r gyflogres yn y flwyddyn dreth ganlynol, bydd yn rhaid i chi aros tan ar ôl i chi anfon eich ffurflen P11D, gan ei fod yn sbardun ar gyfer newid codau treth. Er mwyn ailddechrau talu drwy’r gyflogres, gallwch adolygu’r rhestr o gyflogeion sydd wedi’u heithrio a thynnu’r cyflogai oddi arni.

Opsiwn 2

Gallwch barhau i dalu’r cyflogai drwy’r gyflogres a chario swm trethadwy’r buddiant ymlaen i gyfnodau cyflog yn nes ymlaen yn y flwyddyn dreth honno.

Enghraifft:

Telir £1,000 y mis i gyflogai, a’i god treth yw 1060L.

Mae ganddo fuddiant car sy’n ychwanegu £4,000 at ei gyflog trethadwy ym mis Medi, sy’n golygu bod ganddo gyflog trethadwy o £5,000 ar gyfer mis Medi.

Defnyddiwch y tablau treth i gyfrifo swm y dreth y mae’n rhaid ei didynnu. O dan y cod treth 1060L, bydd hyn yn £1,116.25.

Dim ond hyd at £500 y gallwch chi’i ddidynnu ym mis Medi (50% o’i gyflog, sef £1,000).

Caiff y £616.25 o dreth heb ei chasglu ei chario ymlaen i’r diwrnod cyflog nesaf.

Bydd cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yma yng Nghyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) mis Hydref yn cynnwys y buddiant llawn.

Ym mis Hydref, bydd modd casglu hyd at £500 o dreth, a bydd y dreth heb ei thalu sy’n weddill ar gyfer y buddiant a chyflog mis Hydref yn cael ei chario ymlaen at ddiwrnod cyflog mis Tachwedd.

Os na fydd digon o gyfnodau cyflog i adennill y dreth sydd heb ei chasglu, bydd unrhyw dreth sydd heb ei thalu, ar ôl talu’r Cyflwyniad Taliadau Llawn olaf, yn cael ei chynnwys yn y cyfrifiad diwedd blwyddyn, ac yn cael ei hanfon at y cyflogai gan CThEM.

Newidiadau sy’n effeithio ar dreuliau a buddiannau

Os bydd pethau’n newid, megis cyflogai’n gadael neu’n newid car cwmni, bydd angen i chi ail-gyfrifo’r swm trethadwy i fynd drwy’ch cyflogres. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a newidiadau eraill ar gael yn Cyflogres: newidiadau sy’n effeithio ar dreuliau a buddiannau.

Cyhoeddwyd ar 5 February 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 December 2023 + show all updates
  1. The link to the HMRC online calculator to work out cash equivalents of benefits an employer provides has been updated.

  2. How to register for payrolling benefits and expenses section has been changed, because there is no longer any informal payroll arrangements from April 2023.

  3. The section 'Tell your employees' has been updated with the information you need to give your employees once you've registered to payroll benefits.

  4. Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  5. The employee pays towards the cost of benefit section has been updated to remove the tax deadline date.

  6. A Welsh language version of the guidance has been added.

  7. First published.