Cyflogres: newidiadau sy'n effeithio ar dreuliau a buddiannau
Cyfrifo'r swm trethadwy o fuddiant i roi drwy'ch cyflogres os bydd rhywbeth yn newid - megis cyflogai'n gadael.
Gallwch ddidynnu a thalu treth ar fuddiannau a threuliau’ch cyflogeion drwy’ch cyflogres. Gelwir hyn yn talu trwy’r gyflogres.
Os bydd pethau’n newid, fel cyflogai’n gadael neu newid car cwmni, bydd angen i chi ail-gyfrifo’r swm trethadwy sydd i fynd trwy’ch cyflogres.
Cyflogai’n gadael
Bydd buddiant y cyflogai fel arfer yn dod i ben ar eu diwrnod gwaith olaf. Dylech gyfrifo faint o fuddiant trethadwy i dalu drwy’r gyflogres yn ystod y diwrnodau cyflog sydd ar ôl ganddynt. I wneud hyn dylech wneud y canlynol:
- cyfrifo’r swm trethadwy diwygiedig ar gyfer y diwrnodau yn y flwyddyn dreth y cawsant y buddiant
- didynnwch y swm a dalwyd drwy’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth hyd yn hyn
- talu’r swm sy’n weddill drwy’r gyflogres dros y diwrnodau cyflog sydd ar ôl
Os yw’r cyflogai wedi cael ei gyflog terfynol, ni allwch dalu’r swm sy’n weddill drwy’r gyflogres. Mae’n rhaid i chi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) fel bod y dreth yn gallu cael ei chasglu yn uniongyrchol oddi wrth y cyflogai.
Cyflogai’n cadw’i fuddiant hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth
Efallai y byddwch yn gadael i’ch cyflogai gadw’i fuddiant hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth ar ôl iddo adael.
Didynnwch o’r swm trethadwy ar gyfer y flwyddyn gyfan, y swm a dalwyd drwy’r gyflogres ar gyfer y diwrnodau cyflog y cafodd i ffwrdd. Bydd hyn yn rhoi i chi’r swm sydd heb ei drethu hyd yn hyn.
Bydd angen i chi ychwanegu’r swm hwn at unrhyw daliadau o gyflog sy’n weddill.
Os yw diwrnod cyflog olaf y cyflogai eisoes wedi bod, rhowch wybod i CThEM er mwyn iddynt allu casglu’r dreth sy’n ddyledus.
Enghraifft: cyflogai’n rhoi gwybod ym mis Rhagfyr mai 28 Chwefror yw ei ddiwrnod olaf
Mae gan y cyflogai gar cwmni. Y swm trethadwy yw £5,200. Mae hyn yn £14.24 y diwrnod (£5,200 ÷ 365).
Hyd at 28 Chwefror bydd y car wedi bod ym meddiant y cyflogai am 329 diwrnod. 329 x £14.24 = £4,684.96 swm trethadwy diwygiedig.
Talwyd £433.33 drwy’r gyflogres bob mis (£5,200 ÷ 12). £433.33 x 9 diwrnod cyflog hyd yn hyn = £3,899.97 wedi’i dalu drwy’r gyflogres hyd yn hyn.
£4,684.96 - £3,899.97 = £784.99.
Dylai’r swm sy’n weddill, sef £784.99, cael ei dalu drwy’r gyflogres dros y ddau ddiwrnod cyflog sydd ar ôl - £329.49 bob diwrnod cyflog.
Gwerth buddiant cyflogai’n newid
Enghraifft o hyn fyddai pan fo car cwmni newydd yn cael ei ddarparu, premiwm ar gyfer newidiadau yswiriant meddygol yn newid neu daliadau ychwanegol yn cael eu gwneud gan ddefnyddio cerdyn credyd cwmni.
Bydd angen i chi gyfrifo swm trethadwy diwygiedig i’w dalu drwy’r gyflogres. I wneud hyn dylech wneud y canlynol:
- cyfrifo’r hen swm trethadwy, hyd at y diwrnod cyn y newidiodd y gwerth
- ychwanegu hyn at y swm trethadwy newydd, o’r dyddiad y newidiodd y gwerth hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth
- didynnu’r swm a dalwyd drwy’r gyflogres hyd yn hyn yn y flwyddyn dreth
- talu’r swm sy’n weddill drwy’r gyflogres dros y diwrnodau cyflog sydd ar ôl yn y flwyddyn dreth
Os ydych wedi gwneud eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) olaf, gallwch gario’r swm hwn drosodd i’r flwyddyn dreth nesaf.
Enghraifft: cyflogai’n cael car cwmni newydd ar 1 Awst
Y swm trethadwy gwreiddiol oedd £4,800. Mae hyn yn £13.15 y diwrnod (£4,800 ÷ 365).
Roedd 117 o ddiwrnodau hyd at 31 Gorffennaf, cyn newidiodd y gwerth. 117 x £13.15 = £1,538.55 swm trethadwy cyn y newid.
Y swm trethadwy newydd yw £6,000. Mae hyn yn £16.43 y diwrnod (£6,000 ÷ 365).
Mae yna 248 o ddiwrnodau ar ôl yn y flwyddyn dreth. 248 x £16.43 = £4,074.64 swm trethadwy o ddyddiad y newid.
Y cyfanswm trethadwy am y flwyddyn gyfan yw £5,613.19 (£1,538.55 + £4,074.64).
Talwyd £400 drwy’r gyflogres bob mis (£4,800 ÷ 12). £400 x 4 diwrnod cyflog hyd yn hyn = £1,600 wedi’i dalu drwy’r gyflogres hyd yn hyn.
Cyfanswm trethadwy o £5,613.19 - £1,600 yn gadael £4,013.19.
Dylai hyn gael ei dalu drwy’r gyflogres dros yr 8 diwrnod cyflog sydd ar ôl - £501.64 y mis.
Cywiro’r swm trethadwy
Os defnyddiwyd y swm trethadwy anghywir gennych drwy gamgymeriad, bydd angen i chi ail-gyfrifo’r swm i’w dalu drwy’r gyflogres. I wneud hyn dylech wneud y canlynol:
- cyfrifwch y swm trethadwy cywir ar gyfer y flwyddyn dreth lawn
- didynnu’r swm a dalwyd drwy’r gyflogres hyd yn hyn yn y flwyddyn dreth
- talu’r swm sy’n weddill drwy’r gyflogres dros y diwrnodau cyflog sydd ar ôl
Os ydych eisoes wedi cyflwyno’ch FPS terfynol, gallwch gario’r swm hwn drosodd i’r flwyddyn dreth nesaf.
Enghraifft: camgymeriad ynghylch gwerth car cwmni
Y swm trethadwy gwreiddiol oedd £4,800. Mae’r cyflogwr yn sylweddoli ar ôl 4 mis mai £6,000 yw’r gwerth cywir.
Roedd £400 yn cael ei dalu drwy’r gyflogres bob mis (£4,800 ÷ 12). £400 x 4 diwrnod cyflog hyd yn hyn = £1,600 wedi’i dalu drwy’r gyflogres hyd yn hyn.
£6,000 - £1,600 = £4,400.
Dylai’r swm sy’n weddill, sef £4,400, cael ei dalu drwy’r gyflogres dros yr 8 diwrnod cyflog sydd ar ôl - £550 bob diwrnod cyflog.
Newid y nifer o ddiwrnodau cyflog
Efallai y bydd angen i chi newid y nifer o ddiwrnodau cyflog, er enghraifft, oherwydd bod cyflogai’n newid o gyflog wythnosol i gyflog misol. Er mwyn ail-gyfrifo swm i dalu drwy’r gyflogres, mae angen i chi:
- cyfrifo swm trethadwy’r buddiant am y flwyddyn gyfan
- didynnu’r swm a dalwyd drwy’r gyflogres eisoes
- talu’r swm sy’n weddill drwy’r gyflogres dros y diwrnodau cyflog sydd ar ôl
Enghraifft: cyflogai’n newid o cyflog wythnosol i gyflog misol ar ddiwedd mis Tachwedd
Mae gan y cyflogai gar cwmni. Y swm trethadwy yw £5,980.
Talwyd £115 drwy’r gyflogres bob wythnos (£5,980 ÷ 52). £115 x 34 diwrnod cyflog hyd yn hyn = £3,910 wedi’i dalu drwy’r gyflogres hyd yn hyn.
£5,980 - £3,910 = £2,070.
Dylai dalu hwn drwy’r gyflogres dros 4 diwrnod cyflog o fis Rhagfyr i fis Mawrth - £547.50 bob mis.
Newid sy’n golygu bod y dreth sy’n daladwy yn fwy na 50% o’r cyflog
Os yw didynnu treth ar gyfer y buddiant a ail-gyfrifwyd yn golygu y bydd treth y cyflogai yn fwy na 50% o’i gyflog.
Cario newid ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf
Os ydych wedi gwneud eich FPS terfynol, gallwch gario’r swm sydd heb ei dalu drwy’r gyflogres ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf.
Ychwanegwch y swm sydd dal i’w dalu drwy’r gyflogres at y taliad cyflog cyntaf yn y flwyddyn dreth nesaf.
Os bydd unrhyw newid yn golygu bod y swm trethadwy wedi’i leihau, bydd y cyflogai’n talu llai o dreth neu’n cael ad-daliad.
Ar gyfer Hunanasesiad, mae’n rhaid i gyflogeion sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am y swm cywir o dreth a dalwyd am flwyddyn yr asesiad, waeth beth fo unrhyw symiau a gariwyd ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf.
Ni all cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n daladwy ar y buddiant cael eu cario ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf. Mae’r rhain yn daladwy erbyn 19 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Cyflogai wedi gadael a dim diwrnodau talu pellach i’w rhoi drwy’r gyflogres ar gyfer y buddiant
Os yw cyflogai wedi gadael ond mae rhan o’r budd-dal i gael ei drethu o hyd, mae gennych 2 ddewis. Bydd CThEM yn cysylltu â’r cyflogai ynghylch y dreth sydd heb ei thalu, pa bynnag opsiwn a ddewiswch.
Opsiwn 1: cynnwys yr hyn sy’n weddill yn eich FPS
Rhowch wybod am y swm trethadwy mewn cyflog trethadwy hyd yn hyn yn eich FPS a rhoi gwybod i CThEM bod y cyflogai wedi gadael os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
Opsiwn 2: cynnwys yr hyn sy’n weddill ar ffurflen P11D
Dylech gynnwys yr hyn sy’n weddill sydd heb ei drethu ar ffurflen P11D ar gyfer y cyfnod y cafodd y cyflogai’r buddiant nad oedd wedi’i gynnwys yn y gyflogres.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 May 2017 + show all updates
-
Welsh language version of page added.
-
First published.