Apwyntiad i wirio'ch taliad budd-dal

Efallai y cewch alwad ffôn gan swyddog yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wirio bod eich taliad budd-dal yn gywir. Y rheswm yw i gasglu ystadegau cenedlaethol ar y system fudd-daliadau.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall swyddog adolygu Mesur Perfformiad eich ffonio os ydych yn hawlio:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Cynhwysol

Bydd eich enw yn cael ei ddewis ar hap i’w wirio.

Fe gewch lythyr ymlaen llaw yn dweud wrthych ddyddiad ac amser yr alwad ffôn.

Beth i’w ddisgwyl

Bydd y swyddog yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi i gadarnhau pwy ydych chi.

Byddant efallai hefyd yn gofyn i chi anfon dogfennau am arian, cynilion a rhent, er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post
  • llyfr rhent neu gytundeb tenantiaeth
  • budd-daliadau a dyfarniadau credyd treth

Gallwch ddarparu dogfennau gwreiddiol neu gopïau i gefnogi eich adolygiad. Bydd y swyddog yn dweud wrthych ble i’w hanfon.

Mae galwadau ffôn fel arfer yn para hyd at awr ond gallant fod yn hirach.

Gallwch aildrefnu’r alwad ffôn os oes angen.