Ymateb i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol am eich hawliau pleidleisio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ymateb i lythyr neu e-bost yn gofyn cwestiwn am eich statws mewnfudo er mwyn canfod sut mae hyn yn effeithio ar eich hawliau pleidleisio.

Dim ond â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol y caiff eich ateb i’r cwestiwn hwn ei rannu. Ni fydd eich ateb yn effeithio ar eich statws mewnfudo.

Bydd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn defnyddio eich ateb i gadarnhau a oes gennych yr hawl i bleidleisio:

  • mewn etholiadau lleol a digwyddiadau pleidleisio lleol yn Lloegr
  • yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Os ydych yn byw yng Nghymru, nid oes newidiadau i’ch hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.

Gallwch ddysgu mwy am newidiadau i bleidleisio ar gyfer dinasyddion yr UE ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Dim ond os cawsoch lythyr neu e-bost gan eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn gofyn am eich gwybodaeth y bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English)

Ateb ar-lein

Bydd yn cymryd llai na phum munud fel arfer.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y llythyr â’ch cod diogelwch unigryw
  • y cod post lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU

Os ydych wedi colli eich llythyr, bydd angen i chi gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich cenedligrwydd ers i chi gofrestru i bleidleisio ddiwethaf, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto gan ddefnyddio eich manylion newydd.

Ffyrdd eraill o ateb

Os na allwch ateb ar-lein, gallwch lenwi’r ffurflen bapur a ddaeth gyda’ch llythyr.

Gallwch hefyd ateb y cwestiwn dros y ffôn drwy ffonio eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.