Troseddau bwyd: adrodd amdanynt a’u hatal
Atal troseddau mewn busnes bwyd
Er mwyn atal troseddau a thwyll bwyd yn eich busnes, dylech:
- fod yn gyfarwydd ag arwyddion troseddau bwyd
- hyfforddi eich staff
- gwirio’r busnesau yn eich cadwyn gyflenwi
- rhoi gweithdrefnau atal troseddau a thwyll ar waith
- cadw’n gyfredol â risgiau sy’n effeithio ar eich busnes
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Arwyddion troseddau bwyd
Dylai pawb yn eich busnes wybod yr arwyddion posib o droseddau bwyd, fel:
- cwynion cwsmeriaid am yr ansawdd neu’r blas
- cynhyrchion neu gynhwysion sydd ddim yn cyfateb i’w disgrifiad
- cyflenwyr yn methu â darparu cofnodion olrheiniadwyedd
- eich profion eich hun yn dangos ansawdd gwael neu wybodaeth ffug
- problemau gyda gwaith papur, fel anfonebau sydd ddim yn cyd-fynd â labeli cynnyrch
- cyflenwyr yn dweud pethau sydd ddim yn cyd-fynd â’ch gwybodaeth am y farchnad
- prisiau sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir
- staff yn gweithredu’n amddiffynnol neu’n cadw rheolaeth lwyr dros bethau
- trafodion arian parod rhyfedd
Nid yw’r arwyddion hyn yn cadarnhau troseddau bwyd, ond gallan nhw awgrymu bod rhywbeth o’i le.
Hyfforddi staff
Gwnewch hi’n glir i’ch staff na fydd twyll yn cael ei dderbyn yn y gweithle.
Rhannwch arwyddion troseddau bwyd gyda’ch staff. Gwnewch yn siŵr bod staff yn teimlo’n ddiogel wrth godi pryderon. Rhannwch broses chwythu’r chwiban glir gyda nhw.
Rhowch wybod i staff y gallan nhw hefyd roi gwybod i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) am eu pryderon.
Gwirio’r busnesau yn eich cadwyn gyflenwi
Cyn gweithio gyda chyflenwyr neu gwsmeriaid newydd, gwiriwch eu bod yn gyfreithlon drwy:
- chwilio amdanyn nhw ar Dŷ’r Cwmnïau
- gwirio eu manylion banc
- gofyn am brawf bod modd olrhain eu cynhyrchion yn ôl i’r ffynhonnell
Datblygu prosesau ar gyfer atal troseddau a thwyll
Dylech chi adolygu eich prosesau busnes a dod o hyd i ffyrdd o atal twyll a throseddau bwyd.
Er mwyn atal twyll, gallwch chi:
- gwblhau’r adnodd hunanasesu gwydnwch yn erbyn twyll bwyd a ddyluniwyd gan yr NFCU
- cwblhau Asesiadau Bregusrwydd a Phwyntiau Rheoli Critigol (VACCP) – mae sawl busnes hyfforddiant diogelwch bwyd yn cynnig y rhain
- cael cyfarfod ar-lein gyda’r NFCU lle byddan nhw’n asesu lefel risg eich busnes – anfonwch e-bost at dîm atal yr NFCU i drefnu hyn
- mynd i ddigwyddiad hyfforddi wyneb yn wyneb lle bydd yr hyfforddwyr yn efelychu digwyddiad twyll bwyd – anfonwch e-bost at dîm atal yr NFCU i ymuno
Er mwyn atal ymosodiad ar eich cadwyn fwyd, dylech chi ddilyn canllawiau ‘PAS 96:2017’ i ddatblygu a gweithredu asesiad Pwyntiau Rheoli Critigol ar gyfer Asesu Bygythiadau (TACCP).
Tîm Atal yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU)
nfcu.prevention@food.gov.uk
Cael diweddariadau am y diwydiant bwyd
I gael y diweddaraf am droseddau bwyd a risgiau sy’n effeithio ar y diwydiant, gallwch chi:
- gofrestru ar gyfer cylchlythyr yr NFCU i’r diwydiant
- ymuno â’r Rhwydwaith Dilysrwydd Bwyd i gael cyngor, clywed am ddigwyddiadau a chael diweddariadau am dwyll bwyd a materion o ran dilysrwydd
- dilyn fforymau cymdeithasau masnach a’r diwydiant