Troseddau bwyd: adrodd amdanynt a’u hatal
Trosolwg
Gall troseddau a thwyll bwyd ddigwydd mewn cadwyni cyflenwi bwyd, gan gynnwys diodydd a bwyd anifeiliaid. Mae mathau o droseddau bwyd yn cynnwys:
- lladrad – dwyn bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid er elw
- prosesu anghyfreithlon – lladd neu baratoi cig mewn mannau neu ffyrdd nad ydynt wedi’u cymeradwyo
- dargyfeirio gwastraff – cymryd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid y dylid bod wedi’i daflu a’i roi yn ôl yn y gadwyn cyflenwi bwyd
- difwyno – ychwanegu rhywbeth sydd heb ei restru ar y label i dorri costau neu wneud i’r cynnyrch ymddangos fel pe bai o ansawdd gwell
- amnewid – cyfnewid bwyd neu gynhwysion am opsiynau rhatach neu o ansawdd is
- camgyfleu – gwerthu neu labelu cynnyrch yn anghywir i gamarwain pobl ynghylch ei ansawdd, ei ffresni, ei ddiogelwch neu o ble y daeth
- twyll dogfennau – gwneud, defnyddio neu ddal papurau ffug i werthu neu farchnata cynnyrch sydd ddim yn cyd-fynd â’r honiadau amdano
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallech gael dirwy neu hyd yn oed gael eich anfon i’r carchar os byddwch yn cyflawni trosedd neu dwyll bwyd.
Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd ar-lein neu dros y ffôn.
Os ydych chi’n fusnes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n osgoi troseddau bwyd.