Talu dirwy ymyl ffordd DVSA

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn I dalu:

  • cosbau penodedig am ddiffygion cerbyd a thramgwyddau eraill megis torri’r rheolau ynghylch oriau gyrru
  • ffioedd llonyddu
  • blaendal i’r llys

Bydd yr Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) yn anfon e-bost a neges destun atoch yn nodi’ch cod talu, faint sydd i’w dalu ac erbyn pa bryd.

Os nad ydych yn talu’ch dirwy mewn pryd gellir llonyddu eich lori, bws neu goets, efallai bydd yn rhaid I chi dalu rhagor neu gellir eich dwyn o flaen llys.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English), Ffrangeg (Français), Almanaeg (Deutsch), Pwyleg (Polski) a Sbaeneg (Español).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Byddwch angen

  • eich cod talu
  • cerdyn credyd neu ddebyd

Ffyrdd eraill o dalu

Dros y ffôn

Canolfan gwasanaeth cwsmeriaid DVSA
Ffôn: +44 (0)300 123 9000
Llun I Gwener, 7:30am hyd at 6pm
Rhagor am gost galwadau

Bydd angen un o’r canlynol arnoch:

  • eich cod talu
  • rhif eich cyfeirnod dirwy o hysbysiad dirwy benodedig
  • rhif cofrestru’r cerbyd (rhif y plât)

Trwy’r post (gyrwyr neu weithredwyr y DU yn unig)

Talu â siec neu archeb bost. Gwnewch hyn yn daladwy I ‘Swyddfa Dirwyon Penodedig DVSA’ a nodwch eich cod talu ar y cefn.

Swyddfa Dirwyon Penodedig y DVSA
Ellipse
Ffordd Padley
Abertawe
SA1 8AN

Yn bersonol

Medrwch dalu arian gleision I archwiliwr y DVSA pan gewch y ddirwy.