Talu cosb Hunanasesiad
Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF o fewn 30 diwrnod i’r ddyddiad sydd ar yr hysbysiad cosb.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn i’w weld ar eich slip talu.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi ddefnyddio i dalu’r bill treth anghywir, cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei drosglwyddo.
Os ydych am wirio bod eich taliad wedi cyrraedd, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.