Skip to main content

Talu cosb Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

Debyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein i wneud y taliad.

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.

Bydd hwn naill ai:

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi ddefnyddio i dalu’r bill treth anghywir, cysylltwch ag Ymholiadau Cyffredinol Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei drosglwyddo.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.