Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i hawlio

Mae gennych 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth neu i hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth drwy eich cyflogwr. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Gallwch gymryd 2 wythnos o absenoldeb ar un tro neu gallwch eu cymryd dros ddwy wythnos ar wahân.

Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:

  • o ddyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn hyd at 8 wythnos ar ôl hynny
  • 9 i 56 wythnos ar ôl dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cymryd yr absenoldeb.

0 i 8 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn y byddech fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos neu’r wythnosau yr ydych yn dymuno eu cymryd o’r gwaith.

9 i 56 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i chi roi o leiaf un wythnos o rybudd i’ch cyflogwr cyn dechrau’r wythnos neu’r wythnosau yr ydych yn dymuno eu cymryd i ffwrdd o’r gwaith.

Rhoi rhybudd i’ch cyflogwr

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr am y canlynol:

  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
  • pryd yr hoffech i’ch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau
  • faint o absenoldeb rydych yn ei gymryd – naill ai 1 neu 2 wythnos

Gallwch siarad â’ch cyflogwr dros y ffôn, gadael lleisbost, anfon neges testun neu e-bost. Does dim rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig iddo (er enghraifft drwy ffurflen neu lythyr).

Does dim angen i chi roi tystiolaeth o farwolaeth neu farw-enedigaeth.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Rhaid i chi ofyn am Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyn pen 28 diwrnod, gan ddechrau o ddiwrnod cyntaf yr wythnos yr ydych yn hawlio’r taliad amdani.

Bob tro y byddwch yn hawlio, rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig (er enghraifft llythyr, e-bost neu ffurflen):

  • eich enw
  • dyddiadau’r cyfnod rydych am hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Bydd angen i chi hefyd roi ‘datganiad’ i’ch cyflogwr i gadarnhau eich bod yn gymwys oherwydd eich perthynas â’r plentyn neu’r baban. Dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi lenwi hwn, pan fyddwch yn gofyn am dâl y tro cyntaf.

Llenwi’r datganiad

Gallwch wneud y canlynol:

Unwaith y byddwch wedi llenwi’ch datganiad, bydd angen i chi ei anfon at eich cyflogwr. Bydd eich cyflogwr wedyn yn gwirio’ch gwybodaeth a’ch cymhwystra.