Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwirio a ydych yn gymwys

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, rhaid i chi fodloni’r meini prawf fel rhiant (gan gynnwys a oedd gennych gyfrifoldeb o ddydd i ddydd) ac fel cyflogai. Efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer y ddau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os oeddech yn rhiant i’r plentyn neu’n bartner i’r rhiant

Gallech fod yn gymwys os oeddech, ar adeg marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn:

  • yn rhiant i’r plentyn neu’r baban – naill ai’n fiolegol, yn fabwysiadol, neu’n rhiant i blentyn a aned i fam fenthyg
  • yn bartner i riant y plentyn neu’r baban

Ni fydd rhieni biolegol y plentyn neu’r baban yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth na Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ar ôl i orchymyn mabwysiadu neu orchymyn rhiant gael ei wneud, oni bai bod gorchymyn cyswllt ar waith.

Os oedd gennych chi neu’ch partner gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y plentyn

Gallech fod yn gymwys os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • roedd y plentyn neu’r baban yn byw gartref gyda chi am 4 wythnos barhaus, gan ddod i ben ar ddyddiad y farwolaeth
  • roedd gennych chi neu’ch partner gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ofal y plentyn neu’r baban yn ystod yr adeg honno

Os oeddech chi neu’ch partner yn cael eich talu i ofalu am y plentyn neu’r baban, nid ydych yn gymwys ar gyfer absenoldeb na thâl oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn rhiant maeth a oedd yn cael ffi neu lwfans gan awdurdod lleol
  • roeddech yn cael eich ad-dalu am dreuliau mewn perthynas â gofalu am y plentyn neu’r baban
  • roeddech yn cael taliadau o dan delerau ewyllys neu ymddiriedolaeth ar gyfer gofal y plentyn neu’r baban

Nid ydych yn gymwys os oedd un o rieni’r plentyn neu’r baban, neu rywun a oedd â chyfrifoldeb rhiant (cyfrifoldebau rhiant yn yr Alban) ar gyfer y plentyn, hefyd yn byw ar yr aelwyd.

Os oeddech chi neu’ch partner yn rhiant mabwysiadol

Rydych yn gymwys ar gyfer tâl neu absenoldeb:

  • ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei roi
  • cyn i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, os cafodd y plentyn ei leoli gyda chi ac nad amharwyd ar y lleoliad (er enghraifft, y plenty yn cael ei leoli rywle arall dros dro) ac na stopiwyd y lleoliad chwaith

Os oeddech chi neu’ch partner yn rhiant mabwysiadol i blentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

Os oeddech chi neu’ch partner yn mabwysiadu plentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oedd y gorchymyn mabwysiadu eto wedi ei wneud, gallech fod yn gymwys o hyd. Rhaid i’r naill a’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • roedd y plentyn yn byw gyda chi ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig
  • mae gennych yr ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau eich bod yn cael mabwysiadu

Os cawsoch chi neu’ch partner faban gyda chymorth rhiant benthyg

Rydych yn gymwys ar gyfer tâl neu absenoldeb:

  • ar ôl i orchymyn rhiant gael ei wneud
  • cyn i orchymyn rhiant gael ei wneud os oeddech wedi gwneud cais – neu wedi bwriadu gwneud cais – am orchymyn rhiant cyn pen 6 mis i enedigaeth y plentyn a’ch bod yn disgwyl i’r gorchymyn gael ei roi

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth, rhaid i chi hefyd:

  • cael eich ystyried yn gyflogai – does dim ots pa mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr
  • rhoi rhybudd i’ch cyflogwr ynghylch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr ‘wythnos berthnasol’. Yr ‘wythnos berthnasol’ yw’r wythnos (sy’n dod i ben gyda dydd Sadwrn) yn union cyn wythnos y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Rhaid i’r canlynol hefyd fod yn berthnasol i chi:

  • rydych yn dal i fod wedi’ch cyflogi hyd at y diwrnod mae’r plentyn yn marw neu’n farw-enedigol
  • rydych yn ennill, ar gyfartaledd, £123 yr wythnos cyn treth (gros) dros gyfnod o 8 wythnos
  • rydych yn rhoi’r rhybudd a’r wybodaeth gywir i’ch cyflogwr ynghylch Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Os ydych fel arfer yn ennill £123 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaethoch ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd cawsoch eich talu ond nad oeddech yn gweithio (‘ar ffyrlo’ o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws), gallech fod yn gymwys o hyd.