Tâl ac absenoldeb mamolaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i hawlio

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

O leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad disgwyl, rhowch wybod i’ch cyflogwr pryd y disgwylir i’r babi gael ei eni a phryd rydych am ddechrau’ch absenoldeb mamolaeth. Gall eich cyflogwr ofyn am hyn yn ysgrifenedig.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ysgrifennu atoch cyn pen 28 diwrnod yn cadarnhau’ch dyddiadau dechrau a gorffen.

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo pryd y mae’n rhaid i chi hawlio’ch absenoldeb mamolaeth.

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Rhowch wybod i’ch cyflogwr eich bod am roi’r gorau i weithio i gael babi a’r diwrnod rydych am i’ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr (yn ysgrifenedig os yw’n gofyn am hyn) a thystiolaeth eich bod yn feichiog.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau cyn pen 28 diwrnod faint o Dâl Mamolaeth Statudol y byddwch yn ei gael a phryd y bydd yn dechrau ac yn dod i ben.

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu nad ydych yn gymwys, mae’n rhaid iddo roi ffurflen SMP1 i chi cyn pen 7 diwrnod ar ôl dod i benderfyniad ac egluro pam.

Tystiolaeth eich bod yn feichiog

Mae angen i chi roi tystiolaeth o’ch beichiogrwydd i’ch cyflogwr i gael Tâl Mamolaeth Statudol. Nid oes angen tystiolaeth arnoch ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

Cyn pen 21 diwrnod i ddyddiad dechrau’ch Tâl Mamolaeth Statudol (neu cyn gynted â phosibl os yw’r babi wedi’i eni’n gynnar) rhowch y naill neu’r llall o’r canlynol i’ch cyflogwr:

  • llythyr gan eich meddyg neu fydwraig
  • eich tystysgrif MATB1 – bydd meddygon a bydwragedd yn rhoi hyn i chi ddim mwy nag 20 wythnos cyn y dyddiad disgwyl

Ni chewch Dâl Mamolaeth Statudol os nad ydych yn rhoi tystiolaeth o ddyddiad disgwyl eich babi i’ch cyflogwr.