Tâl ac absenoldeb mamolaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Absenoldeb

Mae Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn 52 wythnos. Mae’n cynnwys:

  • Absenoldeb Mamolaeth Arferol – 26 wythnos gyntaf
  • Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol – 26 wythnos diwethaf

Nid oes rhaid i chi gymryd 52 wythnos ond mae’n rhaid i chi gymryd pythefnos o absenoldeb ar ôl i’ch babi gael ei eni (neu 4 wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri).

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiadau ar gyfer eich absenoldeb arferol a’ch absenoldeb ychwanegol.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gymryd rhan o’ch absenoldeb fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni.

Dyddiad dechrau a genedigaethau cynnar

Fel arfer, y cynharaf y gallwch ddechrau’ch absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni.

Bydd absenoldeb hefyd yn dechrau:

  • y diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r babi’n cael ei eni’n gynnar
  • yn awtomatig, os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y disgwylir i’ch babi gael ei eni

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiad cynharaf y gall eich absenoldeb mamolaeth ddechrau.

Newid eich dyddiad ar gyfer dychwelyd i’r gwaith

Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dychwelyd i’r gwaith.