Tâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Sut i hawlio
Rydych yn hawlio Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi eu cymryd o fewn 68 wythnos (ychydig yn llai na 16 mis) o ddyddiad geni eich baban, gan gynnwys os yw’ch baban wedi’i fabwysiadu.
Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i’ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol. Os ydych yn gymwys i gael y ddau, yn ddelfrydol, dylech wneud hyn ar yr un pryd.
Mae faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cymryd yr absenoldeb a’r tâl.
Os ydych yn cymryd yr absenoldeb a’r tâl tra bod eich baban mewn gofal newyddenedigol (neu’r wythnos gyntaf ar ôl hynny)
Weithiau, cyfeirir at hyn fel absenoldeb ‘haen 1’.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar y diwrnod rydych am i’ch absenoldeb ddechrau, yn ddelfrydol, cyn yr amser arferol rydych yn dechrau gwaith neu mor gynted ag y gallwch. Gallwch roi rhybudd i’ch cyflogwr am dâl hyd at 28 diwrnod ar ôl i chi ddechrau eich absenoldeb.
Os oes angen i chi barhau gyda’r absenoldeb a thâl am wythnos ychwanegol, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr eto. Dylech wneud hyn erbyn diwedd yr wythnos flaenorol.
Os yw’n debygol y bydd eich baban mewn gofal newyddenedigol am gyfnod hir, efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno y gallwch gysylltu ag ef yn llai aml.
Mae angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr y dyddiad y mae’ch baban yn gadael gofal newyddenedigol cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn cymryd absenoldeb a thâl am fwy nag wythnos ar ôl i’ch baban adael gofal newyddenedigol
Weithiau, cyfeirir at hyn fel absenoldeb ‘haen 2’.
Os ydych yn cymryd absenoldeb a thâl am un wythnos, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr 15 diwrnod cyn rydych am i’r absenoldeb a thâl ddechrau. Os ydych am gymryd absenoldeb a thâl am 2 wythnos neu fwy, bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyflogwr 28 diwrnod ymlaen llaw.
Er mwyn hawlio absenoldeb gofal newyddenedigol, mae’n rhaid i chi ysgrifennu i’ch cyflogwr gan nodi’r canlynol:
- eich enw llawn
- dyddiad geni eich baban ac, os cafodd ei fabwysiadu, y dyddiad y cafodd ei osod gyda chi (neu’r dyddiad y daeth y baban i mewn i Brydain Fawr os cafodd ei fabwysiadu o dramor)
- dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben gofal newyddenedigol eich baban
- pryd yr hoffech i’ch Absenoldeb Gofal Newyddenedigol ddechrau
- sawl wythnos o absenoldeb yr hoffech gymryd
Ar gyfer absenoldeb a thâl, y bydd angen i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:
- y byddwch yn gofalu am y baban yn ystod y cyfnod rydych yn hawlio ar ei gyfer
- rydych yn rhiant y baban, neu’n bartner i fam y baban, ac mae gennych gyfrifoldeb gofal am y baban – bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon y tro cyntaf y byddwch yn ysgrifennu at eich cyflogwr
Os oes gennych fwy nag un baban mewn gofal newyddenedigol
Bydd angen i chi roi manylion am bob baban i’ch cyflogwr.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad am Dâl Gofal Newyddenedigol
Cysylltwch â’ch cyflogwr os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar gyfer hawl am Dâl Gofal Newyddenedigol Statudol, er enghraifft oherwydd rydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr:
- yn talu’r swm anghywir i chi
- wedi penderfynu, yn anghywir, i beidio talu eich tâl statudol
Os nad ydych yn gallu dod i gytundeb, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 6 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn.