Cwyno am sŵn i’r cyngor

Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am gymorth os yw’r anghydfod â’ch cymydog yn cynnwys gweithgaredd sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans. Gelwir hyn yn ‘niwsans statudol’.

Gallai hyn gynnwys:

  • sŵn (gan gynnwys cerddoriaeth uchel a chŵn yn cyfarth)
  • golau artiffisial (ac eithrio lampau stryd)
  • llwch, ager, arogl neu bryfed o safle busnes
  • mwg, mygdarthau neu nwyon
  • pentwr o sbwriel a allai niweidio iechyd

Mae dyletswydd gan eich cyngor i ymchwilio i unrhyw niwsans statudol.

Dylech geisio datrys y broblem bob amser trwy siarad â’ch cymydog neu trwy gyfryngu cyn cysylltu â’r cyngor.

Cosbau

Os yw’r cyngor yn penderfynu bod rhywun yn achosi niwsans sŵn statudol rhaid iddo gyhoeddi gorchymyn ‘lleihau sŵn’. Mae hyn yn dweud wrth y person beth y mae’n rhaid iddo ei wneud i atal gwneud niwsans sŵn neu wynebu camau cyfreithiol pellach.

Os yw rhywun yn torri’r gorchymyn lleihau sŵn o’i gartref, gall gael dirwy o hyd at £5,000. Os yw’n sŵn o ffatri neu fusnes, gall y gosb fod hyd at £20,000.