Datrys anghydfodau rhwng cymdogion
Trosolwg
Dilynwch y camau hyn os oes gennych anghydfod â’ch cymydog.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
- 
    Ceisiwch ddatrys y broblem yn anffurfiol trwy siarad â’ch cymydog. 
- 
    Os yw’ch cymydog yn denant, gallech gysylltu â’i landlord. 
- 
    Gallech ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu os nad yw codi’r mater yn anffurfiol yn gweithio. 
- 
    Os yw’r anghydfod yn cynnwys niwsans statudol (rhywbeth fel cerddoriaeth uchel neu gŵn yn cyfarth), gallwch gwyno i’ch cyngor lleol. 
- 
    Cysylltwch â’r heddlu os yw’ch cymydog yn torri’r gyfraith trwy fod yn dreisgar neu aflonyddu arnoch. 
- 
    Os yw popeth arall wedi methu, gallwch gymryd camau cyfreithiol trwy’r llys.