Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddiweddaru eich cyfeiriad ar gyfer:

  • Treth Incwm
  • Yswiriant Gwladol
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • credydau treth a Budd-dal Plant

Mae ffordd wahanol o ddiweddaru’ch manylion ar gyfer treth busnes.

Mae angen i chi aros hyd nes eich bod wedi symud cyn rhoi gwybod i CThEF am eich cyfeiriad newydd.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

I ddiweddaru’ch cyfeiriad, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os nad oes gennych gyfrif treth personol

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, neu’ch cod post, a dau o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad (o’r ddwy flynedd ddiwethaf), os cyflwynoch un
  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Gallwch hefyd ddefnyddio’ch cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion gyda CThEF a rheoli’ch manylion eraill.