Olrhain eich cais am drwydded yrru

Neidio i gynnwys y canllaw

Ceisiadau am drwydded dros dro â rhif cyfeirnod ‘FP’

Os ydych wedi gwneud cais ar-lein am drwydded yrru dros dro yn barod gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • wirio cynnydd eich cais
  • lanlwytho llofnod newydd
  • newid eich manylion cyswllt

Olrhain a rheoli eich cais

Bydd angen ichi ddarparu:

  • cyfeirnod eich cais - cafodd hwn ei e-bostio atoch ar ôl ichi wneud cais, a bydd yn dechrau â ‘FP’ wedi’i ddilyn gan 10 llythyren (er enghraifft, FPAB-ABCD-ABCD)
  • cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
  • eich rhif Yswiriant Cenedlaethol
  • rhif eich pasbort y DU

Dechrau nawr

Byddwch fel arfer yn cael eich trwydded un wythnos ar ôl ichi wneud cais ar-lein. Gall gymryd rhagor o amser os oes angen i DVLA wneud gwiriadau ychwanegol.

Os nad yw eich cyfeirnod yn dechrau â ‘FP’

Bydd angen ichi ddefnyddio gwasanaethau gwahanol i olrhain: