Gyrru bws mini

Efallai y gallwch yrru bws mini os ydych yn dal trwydded yrru gar ac yn bodloni amodau penodol - fel arall bydd angen ichi wneud cais am drwydded fws mini.

Gweld eich gwybodaeth trwydded yrru i weld pa gerbydau y gallwch eu gyrru.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os nad yw’r bws mini ar gyfer ‘hurio neu dâl’

Efallai y gallwch yrru bws mini â hyd at 16 o seddi i deithwyr gan ddefnyddio eich trwydded yrru gar bresennol cyn belled â nad oes taliad gan neu ar ran y teithwyr (nid yw ar gyfer ‘hurio neu dâl’).

Amodau y mae’n rhaid ichi eu bodloni

Gallwch yrru bws mini o fewn y Deyrnas Unedig cyn belled â bod yr amodau canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn 21 neu’n hŷn

  • rydych wedi cael eich trwydded yrru am o leiaf 2 flynedd

  • rydych yn bodloni’r safonau meddygol ‘Grŵp 2’ os ydych dros 70 oed - gwiriwch gyda’ch meddyg teulu os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r safonau

  • rydych yn gyrru’n wirfoddol ac mae’r bws mini yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymdeithasol gan gorff anfasnachol

  • nid yw ‘uchafswm màs awdurdodedig’ neu MAM y bws mini yn fwy na 3.5 tunnell - ynghyd â 750kg o gyfarpar ar gyfer teithwyr anabl, er enghraifft ramp cadair olwyn

  • nid ydych yn tynnu ôl-gerbyd

Gyrru bws mini dramor

Efallai y gallwch yrru bws mini dramor. Cysylltwch ag awdurdod trwyddedu’r wlad rydych yn ymweld â hi i gael rhagor o wybodaeth.

Adnewyddu eich trwydded yrru os ydych yn 70 oed neu’n hŷn

Os ydych yn 70 oed neu’n hŷn (neu y byddwch yn fuan) ac yn adnewyddu eich trwydded yrru, bydd angen ichi:

Dylech anfon y ddwy ffurflen i’r cyfeiriad yn adran F y D2W.

Os cawsoch eich trwydded yrru ar ôl 1 Ionawr 1997, bydd angen ichi wneud cais am drwydded bws mini.

Hawlen fws mini - os oes angen ichi godi costau rhedeg

Gallwch wneud cais am hawlen fws mini os oes angen ichi godi tâl i deithwyr, cyn belled:

  • bod y cerbyd yn gallu cludo rhwng 9 ac 16 o deithwyr

  • eich bod yn ei yrru ar gyfer sefydliad gwirfoddol sydd o fudd i’r gymuned - er enghraifft sefydliad addysgol, crefyddol neu chwaraeon

  • bod y gwasanaeth bws mini ar gael i aelodau’r sefydliad hwnnw yn unig - nid i’r cyhoedd

  • bod unrhyw daliadau ar gyfer talu costau rhedeg ac nid ydynt am elw

Gallwch wneud cais am hawlen fws mini gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA).

Rhaid i’r yrrwr fod yn 21 oed neu’n hŷn.

Gyrru bws mini am elw

Os ydych am yrru bws mini yn fasnachol, neu os nad yw’r amodau uchod yn berthnasol, bydd angen ichi wneud cais am y ddau o’r canlynol: