Gwneud cais am ddogfen teithio i anifeiliaid anwes ar gyfer Gogledd Iwerddon
Defnyddiwch y gwasanaeth yma i wneud cais am ddogfen teithio i anifeiliaid anwes (PTD) i fynd â’ch ci, eich cath neu’ch ffured o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i Ogledd Iwerddon.
Cewch wneud cais am ddim a bydd yn para cyhyd ag y bydd yr anifail anwes yn perthyn i chi.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, does dim angen PTD arnoch i deithio’n ôl ac ymlaen i Brydain Fawr. Rhaid i’ch anifail anwes fod â microsglodyn.
Pwy sy’n cael gwneud cais
Cewch wneud cais am PTD:
- os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- os oes gan eich anifail anwes ficrosglodyn
- os mai chi yw perchennog yr anifail anwes a’ch bod chi’n fwy nag 16 oed
Bydd arnoch chi angen PTD ar wahân ar gyfer pob anifail anwes.
Bydd arnoch chi angen dogfennau gwahanol os ydych chi’n teithio ymlaen, er enghraifft, trwy Ogledd Iwerddon i wlad arall.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen ichi fewngofnodi gyda’ch ID defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych ID defnyddiwr, gallwch greu un. Bydd angen ichi sefydlu cyfrif Defra hefyd.
Cyn i chi ddechrau
Byddwn ni’n gofyn ichi roi:
- rhif microsglodyn eich anifail anwes
- y dyddiad y cafodd eich anifail anwes ei ficrosglodyn neu ddyddiad y tro diwethaf i’r microsglodyn gael ei sganio
- brid, lliw a rhyw eich anifail anwes
- unrhyw nodweddion anarferol a all fod gan eich anifail anwes, fel llygad neu goes yn eisiau
Cŵn tywys a chŵn cymorth
Mae angen ichi wneud cais am PTD i deithio gyda chi tywys neu gi cymorth.
Gallwch gael gwybodaeth am deithio gyda’ch ci cymorth ar wefan y Cŵn Tywys.
Gadael i rywun arall deithio gyda’ch anifail anwes
Dim ond un person sy’n gallu cael ei enwi fel perchennog yr anifail anwes ar y PTD.
Ar ôl ichi gael eich PTD, cewch awdurdodi rhywun arall i deithio gyda’ch anifail anwes i Ogledd Iwerddon. Er enghraifft, gallai fod yn aelod o’r teulu neu’n negesydd anifeiliaid anwes.
Bydd arnyn nhw angen:
- y PTD
- cymeradwyaeth ysgrifenedig gennych chi, fel llythyr, neges ebost neu neges destun
- llofnodi datganiad yn y porthladd fferi neu’r maes awyr – sy’n gorfod cynnwys y dyddiad a’r man y maen nhw’n ei lofnodi
Cael help i wneud cais
Os oes arnoch chi angen help i wneud cais ar-lein, ffoniwch linell gymorth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Ffôn: 03000 200 301
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm (Ar gau ar wyliau banc)
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau