Wedi prynu cerbyd mewn i’r fasnach modur
Mae’n rhaid ichi sicrhau bod:
- yr enw a chyfeiriad ar y llyfr log (V5CW) yn gywir
- unrhyw rifau cofrestru personol wedi eu cadw neu eu trosglwyddo
Bydd arnoch angen:
- y rhif cyfeirnod 11 digid o’r llyfr log diweddaraf
- caniatâd y gwerthwr i weithredu ar ei ran
Dinistriwch yr adran ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i fasnachwr modur’ felen o’r llyfr log unwaith rydych wedi cwblhau’r gwasanaeth. Nid oes angen ei hanfon i DVLA.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd ceidwad cofrestredig y cerbyd yn cael ei ddileu o gofnodion DVLA. Byddant yn derbyn cadarnhad drwy’r post.
Bydd y ceidwad cofrestredig yn cael ad-daliad siec yn awtomatig ar gyfer unrhyw fisoedd sy’n weddill ar ei dreth cerbyd. Mae’r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y mae DVLA yn cael y wybodaeth.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen ichi lenwi’r adran ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid’ felen gyda manylion eich masnachwr. Anfonwch yr adran dyllog i DVLA.
DVLA
Abertawe
SA99 1BD
Eich atebion
- 2. Ydych chi wedi prynu neu werthu cerbyd?
- Wedi prynu cerbyd mewn i’r fasnach modur
- Newid 2. Ydych chi wedi prynu neu werthu cerbyd?