Skip to main content

Pwy all fod ar reithgor

I fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth rheithgor mae’n rhaid i chi fod:

  • rhwng 18 a 75 oed ar y diwrnod y byddwch yn dechrau eich gwasanaeth rheithgor
  • wedi byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am o leiaf 5 mlynedd heb unrhyw fylchau – rhaid i hyn fod ar ôl i chi gyrraedd 13 oed
  • wedi cofrestru i bleidleisio

Pryd fyddwch yn anghymwys i gwblhau gwasanaeth rheithgor

Ni allwch gwblhau gwasanaeth rheithgor os ydych:

  • ar fechnïaeth
  • wedi cael dedfryd o garchar, gorchymyn cadw, dedfryd ohiriedig, neu ddedfryd gymunedol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf
  • wedi cael, ar unrhyw adeg, ddedfryd o garchar neu orchymyn cadw o 5 mlynedd neu fwy (gan gynnwys dedfrydau oes neu ddedfrydau amhenodol)
  • yn cael eich cadw ar hyn o bryd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
  • heb y galluedd meddyliol i wasanaethu ar reithgor, er enghraifft oherwydd na fyddwch yn gallu deall achos na gwneud penderfyniad am achos

Os byddwch yn cael gwŷs rheithgor ond eich bod yn anghymwys

Hyd yn oed os ydych yn anghymwys, rhaid i chi dal ymateb i’r wŷs o fewn 7 diwrnod.

Cael cymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gostau galwadau