Canllawiau

Pryd i gysylltu â’ch awdurdod lleol ynghylch Treth Gyngor

Arweiniad ynghylch pryd y dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol (cyngor) ynghylch eich eiddo domestig.

Bydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi symud i mewn i eiddo
  • rydych wedi newid enw a/neu gyfeiriad eich eiddo
  • mae gennych eiddo nad yw’n bosibl byw ynddo neu sydd wedi’i ddymchwel

Bydd yn rhaid i chi hefyd gysylltu â’ch awdurdod lleol os yw newidiadau wedi’u gwneud i’ch eiddo, gan gynnwys os ydych wedi gwneud un o’r canlynol:

  • rhannu’ch eiddo yn fflatiau
  • cyfuno nifer o fflatiau yn un eiddo
  • addasu’ch eiddo yn dŷ amlbreswyliaeth
  • ychwanegu rhandy at eich eiddo

Mae rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn pennu bandiau ar gyfer tai amlbreswyliaeth ar gael yn yr arweiniad ‘Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor’.

Gallwch dalu’ch Treth Gyngor ar-lein. Mae’ch awdurdod lleol yn ymdrin â biliau, ad-daliadau a rhyddhad.

Dod o hyd i fanylion eich awdurdod lleol.

Cyhoeddwyd ar 7 August 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 January 2020 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.