Canllawiau

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: archwiliadau

Gwybodaeth i ladd-dai am yr hyn y gallant ei ddisgwyl pan fydd arolygydd yn ymweld er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheolau dosbarthu carcasau eidion.

Applies to England and Wales

Mae Arolygiaeth Da Byw a Chig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig yn cynnal archwiliadau dirybudd o ladd-dai anifeiliaid buchol trwyddedig.

Caiff lladd-dai sy’n lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos - sef y trothwy ar gyfer aelodaeth orfodol o’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion - eu harchwilio o leiaf ddwywaith bob tri mis

Caiff lladd-dai sy’n lladd llai na 75 o anifeiliaid o’r fath yr wythnos sydd wedi dewis ymuno â’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion yn wirfoddol ei archwilio o leiaf unwaith bob tri mis

Mae’n bosibl yr ymwelir â lladd-dai nad ydynt yn rhan o’r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion o bryd i’w gilydd.

Yr hyn y bydd yr arolygydd yn chwilio amdano

Bydd yr arolygydd yn gwneud y canlynol:

  • ailbwyso carcasau
  • sicrhau bod y carcasau yn cael eu trin yn unol â manyleb a gydnabyddir (a bod y fanyleb hon yn cael ei nodi ar y ddogfennaeth ofynnol)
  • sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu a’u cofnodi’n gywir
  • sicrhau bod y marciau a’r labeli yn gywir
  • sicrhau bod pob cofnod yn gywir a’i fod yn cael ei gadw am y cyfnod penodedig
  • sicrhau eich bod yn hysbysu cyflenwyr carcasau yn gywir
  • gwirio trwyddedau’r dosbarthwyr, a’ch trwydded i ddefnyddio technegau graddio awtomataidd os yw’n gymwys

Os bydd yr arolygydd yn dod o hyd i unrhyw broblemau, gall wneud ymweliadau dilynol a gall RPA gymryd camau gorfodi yn eich erbyn am beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau graddio carcasau eidion.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud

Fel gweithredwr lladd-dy, mae’n rhaid i chi roi pob cymorth a gwybodaeth resymol sydd eu hangen ar y swyddogion archwilio i gynnal yr archwiliad.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod cofnodion ar gael i’w harchwilio.

Ni ddylech wrthod mynediad i’ch safle mewn perthynas ag archwiliad nac atal arolygydd rhag cyflawni ei waith (gan gynnwys drwy roi gwybodaeth ffug). Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn cyflawni trosedd o dan Ran 5 o Reoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Lloegr) 2010 (OS 2010/1090) (fel y’u diwygiwyd) neu Reoliadau Dosbarthu Carcasau Cig Eidion a Moch (Cymru) 2011 (OS 2011/1826 (Cy. 198)), a allai arwain yn uniongyrchol at erlyniad, ac o bosibl ddirwy neu ddedfryd o garchar.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 November 2018 + show all updates
  1. Text reviewed and updated

  2. First published.