Canllawiau

Gweithio gyda ni

Recriwtio aelodau i'r Bwrdd Parôl

Applies to England and Wales

Gweithio gyda ni - ymgyrch recriwtio aelodau i’r Bwrdd Parôl

Ynglŷn â’r Bwrdd Parôl

Am wybod pryd rydym yn recriwtio yn eich ardal chi?

Roedd ein hymgyrch recriwtio ar gyfer Aelodau Seiciatrydd, Seicolegydd a Barnwrol yn 2020 yn agored i’r rhai hynny sy’n byw ym mhob rhanbarh o Gymru a Lloegr. Mae’r rôl wedi’i seilio yn y cartref, gan gynnwys â rhai gwrandawiadau’n cael eu cynnal o bell ar y ffôn a trwy fideo. Hefyd bydd angen teithio i fynychu gwrandawiadau llafar yn ystod y diwrnod gwaith mewn sefydliadau CEM ledled Cymru a Lloegr

Yr angen mwyaf ar y Bwrdd Parôl (PB) yw cael aelodau y tu allan i Lundain ac ardal De-ddwyrain Lloegr. Er y gellir gwneud llawer o’n gwaith o bell, mae angen o hyd i ni gael aelodau i fynychu carchardai ar gyfer gwrandawiadau. Mae’r galw’n arbennig o uchel yng Ngogledd Lloegr, Cymru, Canolbarth Lloegr ac East Anglia. Gofynnir i chi enwebu 3 charchar blaenoriaethol y gallwch eu mynychu, a dylai o leiaf 1 ohonynt fod ar ein rhestr blaenoriaeth uchel, i’w gynnwys yn eich rhestr a ddewiswyd o 25 carchar sy’n hygyrch i chi.

Mae ceisiadau am y rolau hyn wedi cau erbyn hyn ond byddwn yn recriwtio ar gyfer aelodau annibynnol yn ddiweddarach yn y flwyddyn a byddwn yn darparu diweddariadau yn ei dro.

A allaf wneud cais i fod yn aelod barnwrol?

Rhaid i aelodau barnwrol fod yn:

  1. Farnwr yr Uchel Lys sydd wedi ymddeol; neu;
  2. Uwch-farnwr Cylchdaith sydd wedi ymddeol; neu
  3. Barnwr Cylchdaith, a ymddeolodd yn ystod y tair blynedd cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau neu sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ac a fydd wedi ymddeol erbyn Ebrill 2021

Os ydych yn eistedd fel barnwr rhan-amser, barnwr tribiwnlys, ynad neu unrhyw rôl farnwrol arall nas crybwyllir uchod, gallwch wneud cais i fod yn aelod annibynnol. Ar hyn o bryd nid ydym yn ceisio aelodau annibynnol ond rydym yn disgwyl dechrau recriwtio yn y maes hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

A allaf wneud cais i fod yn aelod seicolegydd:

I gael eich ystyried ar gyfer y rôl aelod seiciatydd, rhaid i chi ddiwallu’r meini prawf dilynol:

  1. Wedi’ch cofrestru fel seicolegydd sy’n ymarfer gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC);
  2. Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o asesiadau risg fforensig.
  3. Dim materion sy’n weddill ynghylch cymhwyster i ymarfer

Mae hon yn swydd uwch lle disgwylir y bydd unigolion yn defnyddio eu gwybodaeth o seicoleg, offer asesu risg a sgiliau rheoli risg, i weithio’n annibynnol ac wrth ymgynghori â chydweithwyr eraill ar y Bwrdd Parôl i benderfynu a ddylai troseddwr gael parôl.

A allaf wneud cais i fod yn aelod seiciatrydd?

I gael eich ystyried ar gyfer y rôl aelod seiciatydd, rhaid i chi ddiwallu’r meini prawf dilynol:

  1. O leiaf 5 mlynedd fel seiciatrydd ymgynghorol yn y DU
  2. Cofrestriad arbenigol fel ymarferydd meddygol gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  3. Nid yw trwydded i ymarfer yn ofynnol
  4. Dim materion sy’n weddill ynghylch cymhwyster i ymarfer

Mae hon yn swydd uwch lle disgwylir y bydd unigolion yn defnyddio eu gwybodaeth o seiciatreg, offer asesu risg a sgiliau rheoli risg, i weithio’n annibynnol ac wrth ymgynghori â chydweithwyr eraill ar y Bwrdd Parôl i benderfynu a ddylai troseddwr gael parôl

A allaf wneud cais i fod yn aelod annibynnol?

Ar hyn o bryd nid ydym yn recriwtio aelodau annibynnol ond byddwn yn darparu diweddariadau ar y maes hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae aelodau annibynnol yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol, nid oes angen i chi gael profiad yn y system cyfiawnder troseddol i wneud cais. Rydym yn gwerthfawrogi sgiliau trosglwyddadwy megis gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, meddwl a barnu’n annibynol, sgilau rhyngbersonol a chyfathrebu. Os oes gennych y sgiliau hyn yna rydym am i chi wneud cais, heb ystyried eich cefndir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw ymgyrch recriwtio sydd ar ddod am aelodau annibynnol, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma.

Beth mae’r gwaith yn ei gynnwys?

Gwrandawiadau papur

Mae pob adolygiad parôl yn cael ei ystyried yn gyntaf gan aelod o’r Bwrdd Parôl sy’n edrych ar ffeil o wybodaeth ac adroddiadau sy’n darparu tystiolaeth ynghylch y troseddwr, a elwir yn ‘goflen’. Gwneir hyn gartref gan aelodau a hyfforddir yn y rôl ac sydd â phrofiad o wrandawiadau llafar. Gall yr aelod naill ai gwneud penderfyniad terfynol ar y wybodaeth a ddarperir yn y goflen, neu benderfynu bod rhaid i’r achos gael ei ystyried mewn gwrandawiad llafar wyneb yn wyneb mewn carchar. Oherwydd Covid-19, mae’r holl wrandawiadau llafar wedi bod yn digwydd o bell ar y ffôn a thrwy ddolen fideo. Mae gwaith ar y gweill i wneud gwrandawiadau o bell yn rhan o’n busnes arferol wrth symud ymlaen.

Gwrandawiadau llafar

Fel arfer mae gwrandawiadau llafar yn digwydd mewn carchar. Cadeirir ‘panel’ y Bwrdd Parôl sy’n eistedd yn y gwrandawiad llafar gan aelod o’r Bwrdd Parôl sydd wedi’i hyfforddi a’i achredu yn y rôl. Gall y cadeirydd eistedd ar ei hun neu gael cwmni hyd at ddau aelod arall, weithiau’n cynnwys seiciatrydd neu seicolegydd. Mae aelodau’n paratoi trwy ddarllen manylion yr achos a gyflwynir yn y goflen ac yna’n gwrando ar dystiolaeth gan y carcharor ac amrywiaeth o dystion proffesiynol cyn gwneud eu penderfyniad.

Gwrandawiadau o bell

Mae’r Bwrdd Parôl hefyd yn cynnal gwrandawiadau llafar ar y ffôn neu drwy gynhadledd fideo. Mae pob parti a fyddai’n mynychu’r gwrandawiad yn bersonol yn deialu i mewn i alwad fideo neu gynhadledd fideo er mwyn cymryd rhan. Mae hyn wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y pandemig Covid-19 wrth i garchardai fynd yn fwy anhygyrch oherwydd y cyfyngiadau. Bydd gwrandawiadau’n parhau i gael eu cynnal, hyd yn oed wrth i gyfyngiadau gael eu codi.

Beth mae’r Bwrdd Parôl yn ei wneud?

Mae’r Bwrdd Parôl yn gweithio i amddiffyn y cyhoedd trwy wneud asesiad risg ar garcharorion i benderfynu a ellir eu rhyddhau i’r gymuned yn ddiogel. Mae’n gweithio fel llys ac yn gwneud asesiadau risg sy’n drwyadl, teg, ac wedi’u seilio ar wybodaeth a gyflenwir gan dystion arbenigol.

Mae penderfyniadau’r Bwrdd Parôl yn canolbwyntio dim ond ar y cwestiwn a fyddai’r carcharor yn cyflwyno risg arwyddocaol i’r cyhoedd ar ôl cael ei ryddhau. Mae’r asesiad risg yn seiledig ar dystiolaeth fanwl a geir yn y goflen (casgliad o ddogennau’n ymwneud â’r carcharor) a thystiolaeth a ddarperir yn y gwrandawiad llafar.

Mae’r Bwrdd Parôl yn gyfrifol am ystyried adolygiadau parôl ar gyfer carcharorion sy’n gwneud dedfrydau penagored - a elwir weithiau’n ddedfrydau ‘oes’ - lle nad oes dyddiad terfyn ar y ddedfryd.

Mae hefyd yn ystyried mathau penodol o achosion dedfryd pendant - lle mae terfyn ar y ddedfryd - a rhai carcharorion sydd wedi’u hanfon yn ôl, neu wedi’i ‘hadalw’, i’r carchar.

I fod yn gymwys i gael parôl, bydd carcharor wedi gwneud y ‘tariff’ lleiaf, neu ran gosbi eu dedfryd, a osodwyd gan y llysoedd. Mae carcharorion sy’n gymwys i gael parôl yn cael eu rhyddhau i’r gymuned dim ond os yw’r Bwrdd Parôl yn penderfyu ei fod yn ddiogel gwneud hynny.

Mae troseddwr sy’n cael ei ryddhau ar barôl yn parhau i wneud gweddill ei ddedfryd yn y gymuned wrth gael ei oruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf. Gelwir hyn yn ‘rhyddhau ar drwydded’ neu barôl.

Pam ddylwn i wneud cais?

  • Byddwch yn amddiffyn y gymuned trwy wneud penderfyinadau pwysig ar ddyfodol pobl sydd wedi gwneud rhan gosbi eu dedfryd. Mae’r penderfyiadau hyn yn hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder, tegwch ac amddiffyn y cyhoedd.
  • Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn ysgogol. Gall fod yn heriol ac yn werth chweil. Byddwch yn gweithio gydag aelodau eraill sydd â chyfoeth o brofiadau gwahanol a byddwch yn dysgu llawer yn y broses.
  • Mae’r gwaith yn hyblyg, a gallwch ei drefnu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill yn y gwaith neu yn eich cartref.
  • Mae llawer o gyfle i ehangu’ch rôl. Er enghraifft, bydd aelodau annibynnol yn hyfforddi i gadeirio gwrandawiadau llafar, ymgymryd â gwaith dyletswydd a mentora pobl eraill, ac mae’r rolau hyn ar gael i aelodau arbenigol a barnwrol hefyd.
  • Fe gewch eich cefnogi a’ch hyfforddi trwy gydol eich amser gyda’r Bwrdd Parôl gan fentoriaid, cyd-aelodau, a staff y swyddfa.

Ymrwymiad i Gynhwysiant ac Amrywiaeth

Mae’r Bwrdd Parôl wedi’i ymrwymo i gynhwysiant ac amrywiaeth. Rydym yn annog ceisiadau gan bob ymgeisydd heb ystyried ethnigrwydd, crefydd neu gred, rhywedd, Cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd neu hunaniaeth o ran rhywedd.

Rydym yn ceisio gwella amrywiaeth aelodaeth y Bwrdd Parôl ac yn arbennig rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.

Mae Caroline Corby, Cadeirydd y Bwrdd Parôl wedi siarad yn gyhoeddus am ymrwymiad y Bwrdd Parôl i gynyddu cynrychiolaeth BAME ymhlith ei aelodaeth.

Fe wnaethom gynnydd yn y maes hwn yn ystod ein hymgyrchoedd recriwtio yn 2019 trwy weithio gydag arbenigwyr ac elusennau i gynyddu cyrhaeddiad yr ymgyrchoedd ac i rannu’r neges bod y rolau hyn ar agor i bawb.

Bydd y gwaith i wella amrywiaeth y Bwrdd Parôl yn parhau i ymgyrchoedd recriwtio’r dyfodol. Gwahoddir sefydliadau ac elusennau i gysylltu â’r Bwrdd Parôl yn workwithus@paroleboard.gov.uk er mwyn rhannu eu syniadau ac arbenigedd ynghylch sut y gall yr ymgyrch nesaf fod hyd yn oed yn well..

Sut brofiad yw bod yn aelod?

Mae rhai aelodau’r Bwrdd Parôl wedi ysgrifennu blogiau i ddangos i ymgeiswyr posibl beth mae’r gwaith yn ei olygu a sut y daethon nhw’n aelod yn y lle cyntaf.

Bywyd yn y Bwrdd Parôl

Ei Anrhydedd y Barnwr Geoffrey Kamil, CBE. Aelod barnwrol ers 2000

Fe wnes i ymuno fel Aelod 175 y Bwrdd Parôl yn y flwyddyn 2000. Roedd oddeutu 20 ohonom fel recriwtiaid newydd ac roedd y mwyafrif wedi’u cysylltu mewn rhyw ffordd â’r gyfraith - naill ai fel barnwyr, bargyfreithwyr, ynadon, cyn-swyddogion prawf, neu cyn-swyddogion uwch yr heddlu. Nid oedd unrhyw aelodau’n cynrychioli unrhyw leiafrifoedd.

Gallaf ddweud yn onest na fyddwn i wedi parhau fel aelod o’r Bwrdd Parôl os nad oeddwn i’n mwynhau fy ngwaith. Mae’n feichus ond boddhaol, yn arbennig pan ydych wedi gallu cyrraedd penderfyniad sy’n deg i’r carcharor, y doddefwr, a’r cyhoedd.

Darllen rhagor o flog Geoffrey.

Aelodau annibynnol, sgiliau trosglwyddadwy

Aruna Walsh, aelod annibynnol ers 2009

Pan welais yr hysbyseb am aelodau’r Bwrdd Parôl yn gyntaf wnes i ddim ei ystyried o ddifri.

Wrth ddarllen y gofynion yn agosach, fodd bynnag, sylwais fod y sgiliau a geisiwyd oedd ym meysydd dadansoddi, gwerthuso, cyfathrebu, gweithio ar y cyd, tynnu ar wybodaeth ysgrifenedig a gwybodaeth wedi’i chlywed ar lafar, a gweithio electronig.

Darllen rhagor o flog Aruna.

Her newydd a all ffitio o amgylch eich ymrwymiadau eraill.

Cassie Williams, aelod annibynnol ers 2016

Fe wnes i ymuno â’r Bwrdd Parôl yn 2016 ac rwyf wedi darganfod cymaint lawer am asesiadau risg, seicoleg, pobl a fi fy hun nac yr oeddwn i’n credu y byddai’n dod o’r rôl hon. Fe wnes i gais i ddod yn Aelod gan fy mod i’n chwilio am her newydd a fyddai’n ffitio o amgylch fy mywyd teuluol prysur fel mam i 3 merch ifanc, ac ymrwymiadau proffesiynol fel Bargyfreithiwr.

Nid yw’n hawdd drwy’r amser, ond mae’r gallu i gynllunio fy ymrwymiadau gyda’r Bwrdd rai misoedd o flaen llaw yn caniatáu i mi gymryd cymaint neu cyn lleied o waith ag yr wyf yn ei ddymuno.

Darllen rhagor o flog Cassie.

Telerau penodi

Penodiadau cyhoeddus

Mae aelodau’r Bwrdd Parôl yn ‘benodeion cyhoeddus’ a maent yn annibynol ar yr awdurdodau, yn yr un modd ag y mae barnwr yn y llys.

  • Deiliadaeth: Penodir aelodau gan yr Ysgrifennydd Gwladol am dymor o bum mlynedd â’r posibilrwydd o ailbenodiad yn ôl disgresiwn Gweinidogion. Mae unrhyw ail-benodiad yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Bwrdd wedi’i seilio ar arfarniad boddhaol ar berfformiad ac angen busnes. Os ceir ail-benodiad, ni fydd cyfanswm yr amser a wasanaethir yn y swydd yn fwy na 10 mlyedd.

  • Ymrwymiad amser: Bydd yn ofynnol i aelodau’r Bwrdd Parôl ddarparu lleiafswm ymrwymiad amser bob blwyddyn. Mae’r ymrwymiad amser yn dibynnu ar fath yr aelodaeth.

  • Efallai y byddwch yn rhoi mwy o amser os yw gwaith ar gael. Nid oes unrhyw warant o waith. Mae’r ymrwymiad amser yn cynnwys amser paratoi ar gyfer paneli, y gellir ei wneud gartref ac yn y noswaith, er mwyn ffitio i mewn â’ch cyfrifoldebau eraill. Hefyd bydd yn ofynnol i chi fynychu carchardai ar gyfer gwrandawiadau llafar yn ystod oriau swyddfa.

  • Hyfforddiant: Fe’ch cefnogir â hyfforddiant a datblygiad parhaus. Yn ogystal â hyfforddiant gorfodol mae disgwyl y bydd aelodau’n mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu eraill a drefnir gan y Bwrdd Parôl. Hefyd disgwylir i aelodau gyfrannu at ddatblygiad y sefydliad trwy ymgynghori, prosiectau peilota gweithgareddau nad ydynt yn weithgareddau gwaith achos, megis mentora, hyfforddi ac asesu ansawdd. Mae ffioedd yn daladwy am amser a dreulir ar fusnes y Bwrdd Parôl.

  • Ffioedd: Telir ffioedd am y gwaith. Mae cydnabyddiaeth ariannol yn drethadwy ac yn destu cyfraniadau swiriant Gwladol Dosbarth 1. .Nid yw’r rôl yn bensiynadwy a gallai’ch cydnabyddiaeth ariannol gael ei gostwng os ydych yn derbyn pensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

  • Teithio a Chynhaliaeth - gall Aelodau hawlio am y costau teithio hynny a dynnir o angenrheidrwydd a mewn gwirionedd ar fusnes y Bwrdd Parôl ar y cyfraddau arferol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus. Os na thynnir treuliau ychwanegol, nid yw ad-daliadau’n ddyledus. Hefyd gall Aelodau hawlio taliadau cynhaliaeth i’w had-dalu am unrhyw wariant ychwanegol a dynnir pan ydynt i ffwrdd o’u cartref ar fusnes y Bwrdd Parôl.

  • Perfformiad: Bydd yr holl aelodau’n destun monitro a sicrhau ansawdd rheolaidd ar eu perfformiad. Bydd hyn yn cynnwys asesiad cychwynnol ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf eu haelodaeth.

  • Safonau mewn bywyd cyhoeddus: Mae’n ofynnol i benodeion cyhoeddus gynnal Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus. Hefyd disgwylir i chi gadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau bwrdd cyrff cyhoeddus

  • Penodiadau Cyhoeddus: Mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn sicrhau y gwneir penodiadau yn unol â’r Cod Llywodraethu a’r egwyddorion penodiadau cyhoeddus. Mae’r holl benodiadau’n dilyn proses recriwtio a osodir yn y Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Wrth ystyried gwneud cais am benodiad cyhoeddus, mae ‘Egwyddorion Nolan’ yn perthyn - cafodd y rhain eu llunio gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

  1. Anhunanoldeb
  2. Uniondeb
  3. Gwrthrychedd
  4. Atebolrwydd
  5. Bod yn agored
  6. Gonestrwydd
  7. Arweinyddiaeth

Gellir gweld esboniad llawn o’r egwyddorion yma

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Gweithio’n hyblyg

Mae’r gwaith y rhan-amser, hyblyg a gall ffitio o amgylch ymrwymiadau eraill. Gofynnir am eich argaeledd dri mis o flaen llaw a gallwch ddewis pa ddiwrnodau rydych yn eu gweithio. Er enghraifft, gallech ddewis eistedd ar ddiwrnodau penodol yr wythnos yn unig, neu gallech ddewis cael gwyliau’r ysgol i ffwrdd.

Isafswm ymrwymiad blynyddol

Math o aelod Isafswm ymrwymiad amser blynyddol
Aelodau annibynnol 115 diwrnod
Aelodau Barnwrol sydd Wedi Ymddeol 69 diwrnod
Aelodau seicolegydd 35 diwrnod
Aelodau seiciatrydd 35 diwrnod

Mae’r ymrwymiad amser hwn yn cynnwys gwrandawiadau llafar a gynhelir mewn carchardai (neu drwy ddolen fideo), yn ogystal â gwrandawiadau papur a gwaith paratoi, y gellir ei wneud gartref trwy ddefnyddio llechenni diogel yr ydym yn eu darparu.

Efallai y bydd aelodau’n gallu gweithio mwy na’r isafswm ymrwymiad os oes gwaith ar gael. Fodd bynnag, nid oes unrhyw warant o waith.

Tâl

Ar hyn o bryd mae ffioedd ar gyfer gwaith achos yn amrywio rhwng £320 a £365 y dydd, gan ddibynnu ar y rôl. Mae adolygiad o ffioedd ar waith a gallai’r cyfraddau hyn newid. Mae cydnabyddiaeth ariannol yn drethadwy, ac nid yw’r rôl yn bensiynadwy.

Gwrandawiadau Llafar

Mae’r gyfradd ddyddiol yn amrywio gan ddibynnu ar fath yr aelod (h.y. anarbenigol, cadeirydd panel neu heb fod yn gadeirydd) a natur y gwaith a wneir.

Math o aelod Cyfradd y dydd ar gyfer gwrandawiad llafar ffi baratoi (fesul achos)
Annibynnol 320 60
Barnwrol 320 60
Seicolegydd 345 65
Seiciatrydd 345 65

Gall aelodau ddisgwyl mynychu dau i dri chyfarfod fesul dydd a restrir, naill ai o bell neu mewn carchar. Telir ffi ychwanegol i chi am baratoi pob achos, y gellir ei wneud gartref er mwy ffitio i’ch ymrwymiadau eraill.

Gwrandawiadau Papur

Isod mae cyfradd y dydd ar gyfer aelodau sy’n cynnal gwrandawiadau papur gartref ac mae wedi’i seilio ar wyth awr o waith.

Math yr aelod Cyfradd y dydd ar gyfer gwrandawiadau papur
Annibynnol 320
Barnwrol 320
Seicolegydd 320
Seiciatrydd 320

Treuliau

Er bod aelodau’r Bwrdd Parôl wedi’u lleoli yn y cartref, mae gofyniad i deithio er mwyn mynychu gwrandawiadau ac ar gyfer busnes arall y Bwrdd Parôl. Fe gewch eich ad-dalu ar gyfer treuliau teithio a chynhaliaeth yn unol â’r terfynau a osodir yng nghanllawiau’r Bwrdd Parôl ar gyfer aelodau.

Gostwng

Os ydych yn derbyn cyflog gan y pwrs cyhoeddus ar hyn o brd, gallai’ch cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer rôl y Bwrdd Parôl fod yn destun gostyngiad

Sefydliadau carchar

Gellir gweld rhestr lawn o garchardai a’u cyfeiriadau yma.

Cyhoeddwyd ar 8 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 January 2021 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.

  3. The 2019 member recruitment campaign is now closed for applications (7 March at 12:00). People can still register their interest in working for the Parole Board at workwithus@paroleboard.gov.uk and will be notified when there is a recruitment campaign open in the region they live in.

  4. Information added to 'want to know more' section: the Parole Board is holding recruitment events in Bradford and Sheffield on 22 February to discuss why it must improve the diversity of its membership and to encourage people from all backgrounds to apply to be a member.

  5. The eligibility criteria has been added to make it clear who can apply. The campaign is open to almost everyone and please do ask us at workwithus@paroleboard.gov.uk if you are still unsure whether you are eligible to apply.

  6. The Parole Board member recruitment page has been updated on Tuesday 29 January with the following: * New video of Parole Board members speaking about their roles and why people should apply * Postcode checker for people who need to check if they live in an eligibile area to apply * The option to book in a call with the Parole Board secretariat, a Parole Board member, or a member of the Public Appointments team via the workwithus email address. #workwithus

  7. The campaign for new Parole Board members is now open. This page has been updated with guidance on how to apply, blogs from Parole Board members, and when people need to apply by. More information will be posted in due course and please send any questions to workwithus@paroleboard.gov.uk.