Cyfrifo sut i gyfnewid credydau gwariant y diwydiant creadigol
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo faint o gredyd taladwy y gallwch ei hawlio a sut i gyfnewid gwerth eich credydau gwariant.
Cyn i chi gyfrifo faint o gredyd taladwy y gallwch ei hawlio a sut i gyfnewid gwerth eich credydau gwariant, dylech wirio a yw’ch cwmni’n gymwys i gael credydau gwariant
Cyn i chi ddechrau
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis, bydd angen i chi ei rannu yn 2 gyfnod cyfrifyddu neu fwy, hyd at 12 mis yr un. Mae angen i chi wneud cyfrifiad ar wahân ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.
I ddefnyddio’r gyfrifiannell ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
-
dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu
-
cyfanswm y credyd gwariant a ildiwyd gan aelod y grŵp, os o gwbl
-
symiau a gafodd eu hatal sydd nawr wedi’u dwyn ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol, os o gwbl
-
cyfanswm y credyd gwariant ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, gan gynnwys unrhyw gredyd ychwanegol ar gyfer costau effeithiau gweledol
-
swm y rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, os o gwbl
-
swm unrhyw rwymedigaethau Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sydd heb eu talu, os o gwbl
-
swm y credyd yr ydych am ei ildio i aelodau’r grŵp
-
swm unrhyw rwymedigaethau treth eraill sydd heb eu talu, er enghraifft TAW neu TWE