Cyfrifo rhyddhad treth neu gredydau gwariant y diwydiant creadigol ar gyfer eich cynhyrchiad
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo faint o ryddhad treth neu gredydau gwariant y diwydiant creadigol y gallech gael ar gyfer eich cynhyrchiad a ble i’w hawlio ar eich Ffurflen Treth Gorfforaeth.
Cyn i chi gyfrifo faint y gallwch ei hawlio, dylech wirio a yw’ch cwmni’n gymwys ar gyfer y rhyddhad treth neu gredydau gwariant
Cyn i chi ddechrau
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis, bydd angen i chi ei rannu yn 2 gyfnod cyfrifyddu neu fwy, hyd at 12 mis yr un. Mae angen i chi wneud cyfrifiad ar wahân ar gyfer bob cyfnod cyfrifyddu.
Ar gyfer hawliadau’n ymwneud â rhyddhad treth cerddorfeydd, neu ryddhad treth arddangosfeydd orielau ac amgueddfeydd, os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dechrau cyn 1 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025, bydd angen i chi gwblhau cyfrifiad ar wahân ar gyfer pob cyfnod cyn ac ar ôl 1 Ebrill 2025.
Enghraifft
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu o 28 Mawrth 2025 i 8 Ebrill 2025, bydd angen i chi gyfrifo 2 gyfnod ar wahân:
- 28 Mawrth 2025 i 31 Mawrth 2025
- 1 Ebrill 2025 i 8 Ebrill 2025
I ddefnyddio’r gyfrifiannell ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
-
dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu
- manylion yr hawliad blaenorol am ryddhad treth neu gredyd gwariant, os yw hyn yn berthnasol, gan gynnwys cyfanswm y canlynol:
-
incwm a enillwyd
-
gwariant a dalwyd
-
gwariant craidd
-
gwariant craidd yn y DU
-
gwariant nad yw’n wariant craidd
-
didyniad ychwanegol a hawliwyd neu wariant cymhwysol hyd yn hyn
-
colled a ildiwyd, os yw’n berthnasol
-
-
incwm a chostau amcangyfrifedig
-
cyfanswm y gwariant cymhwysol yn y DU a’r gwariant cymhwysol nad yw yn y DU
- unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen