VO 6048 cais am wybodaeth rhent: llety hunanddarpar yng Nghymru
Llenwch y ffurflen VO 6048 os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi gofyn i chi am wybodaeth rhent am eich eiddo hunanddarpar neu lety gwyliau yng Nghymru.
Yn berthnasol i Gymru
Dylech ond llenwi’r ffurflen os mae’r VOA wedi gofyn i chi wneud.
Os yw eich eiddo yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes ond eich bod yn talu Treth Gyngor ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am ardrethi busnes ar gyfer:
Sut i lenwi’r ffurflen
Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin, neu argraffu’r ffurflen a’i llenwi â llaw.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os ydych yn ceisio ei hagor yn eich porwr. I agor y ffurflen mae angen i chi:
-
Lawrlwytho ac arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf am ddim o Adobe Reader.
Ble i anfon y ffurflen hon
Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau at e-bost. Anfonwch hi at specialist.rating@voa.gov.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc ‘Ffurflen ddychwelyd hunanddarpar wedi’i chwblhau’.
Os yw’n well gennych, gallwch anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post i:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Pam mae eich gwybodaeth yn bwysig
Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar yr hyn fyddai’r rhent blynyddol ar gyfer eiddo wedi bod ar ddyddiad gwerthuso sefydlog. Mae VOA yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn rhoi ar y ffurflen hon i sicrhau bod yr asesiad o werthoedd ardrethol yn gywir. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen hon o fewn 56 diwrnod i’r diwrnod y byddwch yn ei derbyn. Os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen hon o fewn 56 diwrnod, byddwch yn agored i ddirwy o £100 o dan baragraff 5A(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Gweler y rhestr gyflawn o ffurflenni cais rhent VOA (yn agor tudalen Saesneg).