Canllawiau

Treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Ebrill 2017

Mae sut y cyfrifir treth cerbyd yn wahanol i geir a gofrestrwyd am y tro cyntaf gyda DVLA o 1 Ebrill 2017.

Pan fydd eich car yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf, byddwch hefyd yn talu’r dreth (treth car) am y 12 mis cyntaf. Bydd y flwyddyn gyntaf o dreth yn dibynnu ar allyriadau carbon deuocsid (CO2) y cerbyd.

O’r ail dro y trethir y cerbyd byddwch yn talu cyfradd safonol, oni bai eich bod yn berchen ar gar allyriadau sero a fyddwch yn talu £0 amdano. Mae’r gyfradd safonol yn dibynnu ar p’un ai bod eich cerbyd yn defnyddio petrol, diesel neu danwydd amgen.

Cael gwybod mwy am gyfraddau treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Ebrill 2017.

Bydd cerbydau a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017 yn parhau i fod yn seiliedig ar y math o danwydd ac allyriadau CO2, ac ni fydd hynny’n newid. Gallwch wirio’r cyfraddau treth cerbyd ar gyfer ceir a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017 i sicrhau eich bod yn gwybod faint fydd angen i chi ei dalu.

Os yw pris rhestr eich car yn fwy na £40,000

Os yw pris rhestr eich cerbyd yn fwy na £40,000 cyn unrhyw ostyngiadau pan gaiff ei gofrestru am y tro cyntaf, bydd y flwyddyn gyntaf o dreth yn dibynnu ar allyriadau carbon deuocsid (CO2) y cerbyd.

O’r ail dro y trethir y cerbyd byddwch yn talu cyfradd safonol a bydd angen i chi dalu’r gyfradd ychwanegol hefyd.

Bydd angen i chi dalu’r gyfradd ychwanegol am 5 mlynedd.

Er enghraifft, os cofrestrwyd eich car am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2017 ac nad yw’n cael ei werthu neu ei ddatgan fel oddi ar y ffordd (HOS) o fewn y 12 mis cyntaf, byddwch yn talu’r gyfradd ychwanegol o 1 Ebrill 2018 tan 1 Ebrill 2023. Ar ôl y dyddiad hwn, byddwch yn talu’r gyfradd safonol.

Gallwch wirio ar-lein i weld os bydd angen i chi dalu’r gyfradd ychwanegol neu edrych yn eich llyfr log cerbyd (V5CW). Gallwch hefyd wirio’r pris rhestr gyda’ch deliwr modur er mwyn i chi wybod faint o dreth cerbyd fydd rhaid i chi ei thalu.

Nid oes angen i chi dalu’r gyfradd ychwanegol os oes gennych gerbyd allyriadau sero.

Ar ôl talu’r gyfradd ychwanegol am 5 mlynedd

Ni fyddwch yn talu’r gyfradd ychwanegol mwyach. Bydd eich cerbyd yn cael ei drethu ar un o’r cyfraddau safonol yn dibynnu ar os yw’n defnyddio petrol, diesel neu danwydd amgen.

Os nad yw’r dyddiad adnewyddu eich treth yr un peth â’r dyddiad y bydd y gyfradd ychwanegol yn dod i ben, bydd y taliad treth cerbyd yn cael ei addasu i gymryd hwn i ystyriaeth.

Os byddwch yn gwneud taliad unigol, yna bydd hwn yn cael ei gyfrifo i chi a bydd y gyfradd ychwanegol sy’n weddill yn cael ei chynnwys.

Os byddwch yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, bydd y gwerthoedd yn cael eu haddasu er mwyn talu’r gyfradd ychwanegol yn y misoedd sy’n weddill. Er enghraifft, os oes gennych 3 mis ar ôl i dalu’r gyfradd ychwanegol, bydd y 3 mis cyntaf o’ch taliadau Debyd Uniongyrchol yn cael eu pwysoli i’w cynnwys.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2021