Canllawiau

Defnyddio’r gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol

Gall cwmnïau a sefydliadau ddefnyddio’r gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol i wirio bod atwrneiaeth arhosol yn ddilys a gwirio pwy yw’r atwrneiod, gan helpu i gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel .

Yn berthnasol i England and Gymru

Mae miliynau o bobl yn y DU wedi creu atwrneiaeth arhosol (LPA), felly mae’n bosibl y bydd angen i chi ymdrin ag un rywbryd. Os bydd atwrnai yn dangos LPA i chi, a’u bod angen ei defnyddio, rhaid gwirio’r atwrnai a’r LPA yn gyntaf.

Gellir gwirio LPA drwy ddefnyddio’r ddogfen bapur neu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth digidol Gweld Atwrneiaeth Arhosol. Gweld Atwrneiaeth Arhosol yw’r gwasanaeth ar-lein, diogel sy’n caniatáu i gwmnïau a sefydliadau wirio atwrniaethau arhosol ar-lein.

Dim ond atwrniaethau arhosol a gofrestrwyd ar 1 Gorffennaf 2016 neu ar ôl hynny y gellir eu gwirio ar y gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol.

Y gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol 

Mae Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn dangos unrhyw wybodaeth y gallai fod arnoch ei hangen er mwyn caniatáu i atwrnai wneud penderfyniadau ar ran un o’ch cwsmeriaid. Er enghraifft, bydd yn rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • manylion y rhoddwr – enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • manylion yr atwrneiod – faint o atwrneiod sydd yna, eu henwau, eu cyfeiriadau a’u dyddiadau geni
  • sut y gwneir penderfyniadau gan yr atwrneiod
  • dewis y rhoddwr ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd, os yw’r LPA ar gyfer iechyd a lles

  • unrhyw gyfarwyddiadau a dewisiadau a ysgrifennwyd gan y rhoddwr, a allai effeithio ar yr hyn y mae’r atwrnai yn bwriadu ei wneud, neu hyd yn oed beidio â chaniatáu iddo wneud hynny
  • a yw’r LPA yn dal yn ddilys ac wedi ei chofrestru

Gallwch lawrlwytho copi o’r crynodeb o’r LPA, i’w storio.

Dim ond er mwyn cael mynediad at atwrniaethau arhosol sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr y gallwch ddefnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol. Nid yw’n dangos atwrniaethau arhosol sydd wedi’u cofrestru yn yr Alban, Gogledd Iwerddon neu dramor. Nid yw’n dangos atwrniaethau parhaus (EPA) ychwaith.

Defnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch ddod o hyd i’r gwasanaeth Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn www.gov.uk/gweld-atwrneiaeth-arhosol

Er mwyn gweld yr LPA, bydd arnoch angen ‘cod mynediad LPA’, a fydd yn cael ei roi gan yr atwrnai neu’r rhoddwr. Mae cod mynediad yn cynnwys 13 nod ac mae’n dechrau â’r llythyren V.

Rhowch gyfenw’r rhoddwr a’r cod 13 nod. Os deuir o hyd i LPA, byddwch yn gweld enw llawn y rhoddwr a’r math o LPA. Gwnewch yn siŵr bod enw llawn y rhoddwr yn cyfateb i enw eich cwsmer. Os nad yw, gofynnwch i’r atwrnai wirio’r cod eto.

Dylech wirio’r math o LPA, a sicrhau ei bod yn briodol i’r penderfyniad y mae angen ei wneud. A yw’n benderfyniad ynglŷn â materion ariannol ac eiddo’r rhoddwr ynteu ynglŷn â’i iechyd a’i les? Os nad yw’r math yn iawn, gofynnwch i’r atwrnai ddarparu’r cod ar gyfer y math cywir o LPA.

Rhaid i chi roi enw eich cwmni neu sefydliad. Cofnodir yr enw hwn a’r dyddiad fel bod y rhoddwr ac unrhyw atwrneiod eraill yn gallu gweld pryd a sut y defnyddir yr LPA.

Gallwch wedyn weld yr LPA ei hun.

Os na all yr atwrnai greu cod mynediad dilys

Os nad yw’r atwrnai yn gwybod sut i greu cod mynediad, neu os yw wedi rhoi cod mynediad annilys i chi, gallwch ofyn iddo fynd i GOV.UK a chwilio am ‘godau mynediad LPA’.

Pam defnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol?

Mae defnyddio Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn golygu y gallwch weld holl fanylion yr LPA heb fod angen i’r atwrnai ddarparu’r fersiwn bapur, y byddai’n rhaid iddo ei rhoi i chi’n bersonol neu ei phostio i chi. Mae gwneud pethau fel hyn yn arwain at lawer o fanteision i chi, y cwsmer a’r atwrnai.

Mae’n arbed amser ac adnoddau

Mae’r crynodeb ar-lein yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau y gellir defnyddio’r LPA ac i wirio atwrnai arni. Mae hyn yn fwy effeithlon, oherwydd:

  • mae’r wybodaeth hanfodol yn cael ei chrynhoi ar un dudalen ar-lein, tra ei bod mewn nifer o adrannau gwahanol o’r fersiwn bapur
  • os oes arnoch angen copi o’r LPA ar gyfer eich cofnodion, gallwch lawrlwytho’r PDF. Gyda’r fersiwn bapur, rhaid sganio’r tudalennau angenrheidiol o’r LPA bapur
  • gallai LPA a anfonir drwy’r post gymryd diwrnodau i gyrraedd a chael ei dychwelyd, a gallai adael eich cwsmer heb rywun i weithredu ar ei ran yn y cyfamser
  • os oes angen i atwrnai newydd ddechrau gweithredu ar ran y rhoddwr, rhaid dychwelyd yr LPA bapur i ni er mwyn ei diwygio ac yna ei hanfon yn ôl i’r atwrnai. Gyda’r crynodeb ar-lein, gallwch weld y diweddariad yn llawer cyflymach

Mae’n cynnig mwy o ddiogelwch

Mae’r holl wybodaeth sydd ar Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn gywir pan fyddwch yn ei gweld, tra mai dim ond yr wybodaeth a oedd ynddi pan gafodd ei chofrestru yn unig a fydd i’w gweld ar yr LPA bapur. Mae gwybodaeth gyfredol yn hanfodol oherwydd:

  • ni ellir defnyddio LPA os nad oes ganddi statws ‘Cofrestredig’ ar y pryd. Mae unrhyw un sy’n defnyddio LPA heb ei chofrestru yn torri’r gyfraith
  • efallai fod y rhoddwr wedi tynnu enw atwrnai oddi ar yr LPA, ac nad yw’n dymuno iddynt wneud penderfyniadau mwyach. Mae’n bosibl na fydd yr LPA bapur yn adlewyrchu’r newid hwn
  • efallai y bydd atwrnai newydd wedi dechrau gweithredu ar ran y rhoddwr, ac y gallai effeithio ar sut y mae unrhyw atwrneiod eraill yn gwneud penderfyniadau
  • gallai’r atwrnai fod wedi newid ei enw neu ei gyfeiriad - gwybodaeth a ddefnyddir i wirio pwy ydyw. Os yw wedi rhoi gwybod i ni yn barod, bydd Gweld Atwrneiaeth Arhosol yn dangos y manylion newydd, ond ni ellir newid yr LPA bapur.

Nid oes risg y bydd y ddogfen bapur yn mynd ar goll yn y post, neu’n mynd i ddwylo rhywun arall, pan fydd yn cael ei hanfon atoch chi neu pan fyddwch chi’n ei dychwelyd i’r atwrnai. Mae hyn yn dod â mwy o ddiogelwch.

Efallai y byddech yn hoffi gofyn i’r rhoddwr a’r atwrneiod roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’w manylion personol neu eu hamgylchiadau, er mwyn sicrhau bod eich cofnodion cwsmeriaid yn gyfredol.

Gall mwy nag un unigolyn gael mynediad i’r LPA yr un pryd

Dim ond un copi o’r LPA bapur gofrestredig sydd ar gael, ond mae’n bosibl y bydd mwy nag un atwrnai. Tra bydd yn cael ei defnyddio gan un atwrnai, ni all unrhyw rai eraill weithredu ar ran y rhoddwr. Pe bai angen gwneud penderfyniad ar frys, a bod yr LPA bapur gofrestredig (neu gopi ardystiedig) ddim ar gael, ni fyddai’r atwrnai yn gallu gwneud hynny yn gyfreithlon.

Fodd bynnag, gall pob atwrnai ar LPA, a’r rhoddwr, greu codau mynediad ar gyfer y cwmnïau y mae angen iddynt ymdrin â hwy.

Gallai’r wybodaeth ar yr LPA honno fod yn dyngedfennol. Os yw ar gyfer iechyd a lles, bydd yn cynnwys dewis y rhoddwr ynglŷn â thriniaeth cynnal bywyd, ac a all ei atwrneiod roi neu wrthod cydsyniad i’r triniaethau hynny ar ei ran.

Ffyrdd eraill o wirio LPA gofrestredig

Gall atwrnai ddod ag LPA bapur gofrestredig i chi yn lle cod mynediad. Gellir gwirio LPA a gofrestrwyd ar 1 Gorffennaf 2016 neu ar ôl hynny ar-lein neu ar bapur, ond os yw LPA wedi ei chofrestru cyn y dyddiad hwnnw dim ond gyda’r ddogfen bapur y gellir ei gwirio a’i defnyddio.

Mae 3 gwahanol set o ffurflenni LPA wedi bod mewn bodolaeth ers eu lansio yn 2007, a gallwch weld enghreifftiau o atwrniaethau arhosol dilys a wnaethpwyd gyda phob un o’r ffurflenni hyn.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2024