Defnyddio allwedd mynediad i fewngofnodi i GOV.UK One Login
Sut i ddefnyddio allwedd mynediad i fewngofnodi a beth i'w wneud os nad yw'ch allwedd mynediad yn gweithio.
Mae allwedd mynediad yn caniatáu i chi fewngofnodi i GOV.UK One Login yn gyflymach, heb fod angen eich cyfrinair neu god diogelwch.
Byddwch yn mewngofnodi yn yr un ffordd ag y byddwch yn datgloi eich ffôn, cyfrifiadur neu dabled, er enghraifft trwy:
- sganio eich wyneb neu’ch olion bysedd
- nodi cod mynediad, PIN neu batrwm eich dyfais
Mae allweddi mynediad yn fwy diogel na chyfrineiriau a gallant eich amddiffyn rhag hacio neu sgamiau.
Pan fyddwch yn sefydlu allwedd mynediad, mae’n dod yn brif ffordd i chi fewngofnodi i GOV.UK One Login.
Beth fyddwch ei angen
Gallwch sefydlu allwedd mynediad drwy ddefnyddio’ch ffôn clyfar neu dabled, er enghraifft:
- iPhone 8 neu fwy newydd sy’n rhedeg iOS 16 neu uwch
- ffôn neu dabled Android (fel Samsung neu Google Pixel) sy’n rhedeg Android 10 neu uwch
- iPad sy’n rhedeg iOS 16 neu uwch
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiadur, er enghraifft:
- cyfrifiadur Windows sy’n rhedeg Windows 10 neu uwch
- cyfrifiadur Apple (fel MacBook neu iMac) sy’n rhedeg macOS Ventura 13 neu uwch
Bydd angen i chi fod wedi sefydlu clo sgrin ar eich dyfais er mwyn gallu defnyddio allweddi mynediad.
Clo sgrin yw’r dull diogelwch rydych wedi’i sefydlu i ddatgloi’ch dyfais - fel sgan wyneb neu olion bysedd, neu god mynediad, PIN neu batrwm.
Sefydlu allwedd mynediad
Efallai y gofynnir i chi a ydych am sefydlu allwedd mynediad pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch GOV.UK One Login.
Gallwch hefyd sefydlu allweddi mynediad ar unrhyw adeg. I wneud hyn:
- Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login.
- Dewiswch Rheoli eich manylion mewngofnodi.
- Darganfyddwch y rhes ar gyfer ‘Sefydlu allwedd mynediad’.
- Rhowch eich cyfrinair a dewiswch Parhau.
- Dewiswch Sefydlu allwedd mynediad.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich dyfais i sganio’ch wyneb neu’ch olion bysedd, neu nodi cod mynediad, PIN neu batrwm eich dyfais.
Ni ddylech sefydlu allwedd mynediad ar ddyfais rydych yn ei rhannu gyda phobl eraill. Mae hyn oherwydd efallai y bydd unrhyw un sy’n gallu datgloi’r ddyfais honno yn gallu defnyddio’ch allwedd mynediad.
Ni fydd eich data biometrig yn cael ei rannu gyda GOV.UK One Login nac unrhyw wasanaethau rydych yn eu cyrchu gydag ef.
Ar ôl i chi sefydlu eich allwedd mynediad
Bydd eich allwedd mynediad yn cael ei arbed i’ch rheolydd cyfrinair. Mae hyn yn dibynnu ar eich dyfais, er enghraifft:
- mae dyfeisiau Apple yn defnyddio’r ap ‘Passwords’
- mae dyfeisiau Android yn defnyddio ‘Google Password Manager’
Byddwch yn cael e-bost sy’n dweud wrthych ble mae eich allwedd mynediad wedi’i arbed.
Gallwch ddefnyddio’ch allwedd mynediad y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi.
Efallai y bydd dal adegau pan fyddwch angen eich cyfrinair a chod diogelwch, er enghraifft fel ffordd wrth gefn o fewngofnodi os ydych yn colli eich allwedd mynediad.
Defnyddio eich allwedd mynediad i fewngofnodi
Pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch GOV.UK One Login, byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost ac yna’n defnyddio’ch allwedd mynediad.
Bydd hyn yr un ffordd ag y byddwch yn datgloi’ch ffôn, cyfrifiadur neu dabled.
Gallwch fewngofnodi gydag unrhyw ddyfais sy’n rhannu’r un rheolwr cyfrinair â’ch allwedd mynediad.
Er enghraifft, os ydych yn sefydlu allwedd mynediad ar eich iPhone, gallwch hefyd ei ddefnyddio ar eich iPad.
Mewngofnodi ar ddyfais wahanol gan ddefnyddio cod QR
Os ydych yn ceisio mewngofnodi ar ddyfais sydd ddim gyda eich allwedd mynediad wedi’i arbed, gallwch sganio cod QR i fewngofnodi.
Bydd angen i chi:
- gael dyfais sydd â’ch allwedd mynediad gerllaw
- troi Bluetooth ymlaen ar gyfer y ddau ddyfais
Er enghraifft, os ydych yn sefydlu allwedd mynediad ar eich ffôn, gallwch fewngofnodi ar liniadur gwahanol trwy sganio cod QR gyda’ch ffôn. I wneud hyn:
- Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login ar eich gliniadur.
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
- Ar y dudalen ‘Mewngofnodi gyda’ch wyneb, olion bysedd neu god mynediad’, dewiswch Parhau.
- Pan fydd eich gliniadur yn rhoi cyfarwyddiadau i chi, dewiswch yr opsiwn i ddefnyddio dyfais wahanol neu debyg.
- Sganiwch y cod QR gan ddefnyddio’r camera ar ffôn neu dabled y mae eich allwedd mynediad wedi’i arbed iddo.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich ffôn neu dabled i ddefnyddio’ch allwedd mynediad.
- Dychwelwch i’ch gliniadur i orffen.
Os na allwch ddefnyddio eich allwedd mynediad
Os na allwch fewngofnodi gyda’ch allwedd mynediad, gallwch ddefnyddio eich cyfrinair a chod diogelwch yn lle hynny.
I wneud hyn, pan welwch y dudalen ‘Mewngofnodi gyda’ch wyneb, olion bysedd neu god mynediad’, dewiswch Mewngofnodi mewn ffordd arall.
Os ydych yn ceisio mewngofnodi trwy sganio cod QR ar ddyfais wahanol, gwiriwch fod Bluetooth wedi’i droi ymlaen ar gyfer y ddwy ddyfais.
Os nad yw’ch allwedd mynediad yn gweithio, gallwch ei dynnu o’ch GOV.UK One Login a sefydlu un newydd.
Os byddwch yn colli eich dyfais
Ni all unrhyw un arall fewngofnodi gyda’r allwedd mynediad ar eich dyfais goll, cyn belled nad ydynt yn gallu ei datgloi.
Gallwch barhau i fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login gan ddefnyddio naill ai:
- eich allwedd mynediad ar ddyfais arall
- eich cyfrinair a chod diogelwch
Os yw’ch dyfais wedi’i dwyn, dylech ddileu yr allwedd mynediad o’ch GOV.UK One Login a sefydlu un newydd.
Dileu allwedd mynediad
Pan fyddwch yn dileu allwedd mynediad, caiff ei ddileu o’ch GOV.UK One Login. I wneud hyn:
- Mewngofnodwch i’ch GOV.UK One Login drwy ddefnyddio eich cyfrinair a chod diogelwch.
- Dewiswch Rheoli eich manylion mewngofnodi.
- Darganfyddwch y rhes ar gyfer ‘Allweddi mynediad’.
- Darganfyddwch yr allwedd mynediad yr hoffech ei dileu, a dewis Dileu allwedd mynediad.
- Rhowch eich cyfrinair a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y dudalen.
Cael help i ddefnyddio allweddi mynediad
Am fwy o help, edrychwch ar y canllawiau ar gyfer eich dyfais.
Os ydych chi ar ffôn, darganfyddwch sut i ddefnyddio:
Os ydych chi ar gyfrifiadur, darganfyddwch sut i ddefnyddio:
Os ydych chi ar dabled, darganfyddwch sut i ddefnyddio: