Canllawiau

Ymholiadau brys: gwirio a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy

Mewn ymchwiliad diogelu, mae angen i chi wybod pa wybodaeth sydd gennym ar ein cofrestrau yng Nghymru a Lloegr, a sut i ofyn am yr wybodaeth honno.

Applies to England and Wales

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) gofrestr o bawb sydd gyda:

  • atwrneiaeth arhosol (LPA)
  • atwrneiaeth barhaus (EPA)
  • dirprwy yn gweithredu ar eu rhan

Gellir chwilio drwy’r gofrestr i ddod o hyd i fanylion cyswllt y bobl dan sylw.

Os ydych yn gwneud penderfyniadau ynghylch oedolyn sy’n wynebu risg neu os ydych yn ymwneud ag ymchwiliad diogelu, gall fod arnoch angen gwybodaeth ar frys. Gallwch wneud cais am chwiliad trwy ddefnyddio’r manylion isod.

Cofiwch: Ni fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gweithredu’n benodol ar ganlyniadau’ch proses chwilio. Os bydd angen i chi weithredu ar ôl cael y canlyniadau, gallwch fynegi’ch pryder wrth y tîm Diogelu. Byddwn ni’n anfon gwybodaeth atoch chi i egluro sut mae gwneud hynny gyda chanlyniadau’r broses chwilio.

Gwneud cais am wybodaeth i gynorthwyo’ch ymholiadau brys

Anfonwch e-bost i OPGurgent@publicguardian.gov.uk gan ddefnyddio’r templed e-bost isod. Rhowch:

  • Nodi ‘Initial safeguarding enquiry‘ (Ymholiad cychwynnol ynghylch diogelu) neu ‘Urgent enquiry‘ (Ymholiad brys) yn y llinell testun, ôl y gofyn
  • y templed ar waelod y dudalen, sy’n cynnwys manylion yr unigolyn
  • eich llofnod e-bost, gan gynnwys teitl eich swydd a’ch tîm

Mae’n rhaid i’r neges gael ei hanfon o gyfeiriad e-bost achrededig, er enghraifft, @wales.nhs.uk neu @llyw.cymru. Ni allwn dderbyn ceisiadau o gyfeiriadau e-bost personol.

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r broses chwilio yma i gyflwyno ceisiadau o dan Adran 42 o Ddeddf Gofal 2014 neu Adran 126 o Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (ymholiadau diogelu).

Rhaid defnyddio ffurflen OPG100 i wneud ceisiadau nad ydynt yn ymwneud ag ymholiadau diogelu.

Dylid defnyddio’r broses chwilio bwrpasol i wneud ceisiadau sy’n ymwneud â chleifion COVID-19.

Os yw’n bosib, peidiwch ag anfon eich cais trwy ddefnyddio meddalwedd e-bost wedi’i amgryptio megis Egress. Mae hyn yn arafu’r broses chwilio ac efallai na chewch eich canlyniadau mor gyflym. Mae ein cyfeiriad e-bost gov.uk yn ddiogel.

Ein nod yw ymateb i geisiadau o fewn 24 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd ceisiadau a wneir dros y penwythnos yn cael sylw ddydd Llun fel mater o flaenoriaeth.

Yr wybodaeth y byddwch yn ei chael

Byddwch yn cael gwybod pa un o’r canlynol sydd ar waith – atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus neu orchymyn dirprwyaeth gan y llys

  • a yw ar gyfer iechyd a lles (mae rhai’n ymwneud â chyllid ac eiddo yn unig)
  • dyddiad cofrestru’r LPA neu EPA neu ddyddiad y gorchymyn llys
  • enwau a manylion cyswllt yr atwrneiod neu’r dirprwyon
  • a oes cyfyngiadau ar bwerau’r atwrnai neu’r gorchymyn llys
  • a oes gan atwrnai awdurdod dros driniaethau cynnal bywyd ar gyfer y rhoddwr
  • lle bo mwy nag un atwrnai neu ddirprwy, sut maen nhw wedi’u penodi i weithredu
  • a yw’r atwrneiaeth arhosol, yr atwrneiaeth barhaus neu’r ddirprwyaeth wedi cael ei cofrestru’r, chanslo, ei dirymu neu wedi dod i ben
  • dyddiad dod i ben unrhyw orchymyn llys

Chwilio am atwrneiaethau parhaus

Gallai gymryd mwy o amser i chwilio am y rhain oherwydd nid yw’r dogfennau wedi cael eu storio’n ddigidol.

Templed e-bost

Annwyl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Rwy’n gwneud cais i chwilio drwy gofrestrau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn helpu i ddiogelu oedolyn sydd mewn perygl. Nid wyf yn gallu cael yr wybodaeth gan yr unigolyn oherwydd diffyg galluedd meddyliol.

A fyddech cystal â chwilio drwy gofrestrau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am unrhyw wybodaeth ynghylch yr unigolyn yma:

Enw:
Dyddiad Geni:
Cyfeiriad:

Cyhoeddwyd ar 30 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 June 2021 + show all updates
  1. Adding reference to the Social Services and Well Being (Wales) Act

  2. Adding the Welsh translation of scenarios of when the search should and should not be used by local authorities

  3. Change of text to clarify scenarios of when the search should and should not be used by local authorities

  4. Amending 'I require this information to help with an urgent issue concerning the person named above.' to 'The information will help safeguard an adult at risk.'

  5. Amending EPA information from 'only relating to financial information' to 'not stored digitally'

  6. Added translation