Canllawiau

Trosolwg o'r Wybodaeth Ychwanegol (1)

Mae’r dudalen hon yn darparu trosolwg o’r manylion a ddarperir yn y wybodaeth ychwanegol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

1.1 Mae gwybodaeth ychwanegol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cyflwyno’r gofynion a’r canllawiau i gynghorau ac awdurdodau maerol, y cyfeirir atynt gyda’i gilydd yn awdurdodau lleol arweiniol trwy gydol y ddogfen hon, sy’n cyflwyno’r UKSPF.

1.2 Mae’r ddogfen hon at ddefnydd awdurdodau lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn unig. Yng Ngogledd Iwerddon, mae llywodraeth y DU yn arwain y gwaith o gyflwyno’r UKSPF ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid yng Ngogledd Iwerddon i ddatblygu cynllun buddsoddi a threfniadau cyflawni. Rydym yn ymrwymo i gyflwyno cronfa sy’n llai biwrocrataidd ac yn gallu gweithredu’n hyblyg o gymharu â’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd blaenorol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws Gogledd Iwerddon i sicrhau bod rheolau, prosesau a gweithdrefnau’r Gronfa yn adlewyrchu hyn, a chyhoeddir gwybodaeth gyfredol yma.

1.3 Lluniwyd yr UKSPF i ddarparu cyllid i arweinwyr lleol, gyda’r rhyddid a’r annibyniaeth angenrheidiol i fanteisio ar gyfleoedd newydd ac ymateb i’r heriau sy’n unigryw i bob un o’u cymunedau. Mae’r gronfa hon yn ymrwymo i gefnogi datganoli a lleihau biwrocratiaeth, gan ganiatáu am wario mwy o arian yn uniongyrchol ar annog canlyniadau ac allbynnau gwell i bobl leol.

1.4 Mae’r hyblygrwydd a ddarperir yn caniatáu i awdurdodau lleol arweiniol ddefnyddio’u strwythurau presennol a sefydledig i ymgymryd â’r atebolrwydd sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â llywodraeth ganolog. Gofynnwyd i awdurdodau lleol arweiniol ddatblygu cynlluniau buddsoddi gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ymyriadau sy’n bodloni anghenion eu cymunedau orau. Disgwylir iddynt sicrhau bod yr ymyriadau’n cael eu cynllunio mewn ffordd sy’n cyflawni gwerth am arian ac yn sicrhau bod cynlluniau’n atebol i’w rhanddeiliaid eu hunain wrth i’r Gronfa symud yn ei blaen. Gall awdurdodau lleol arweiniol ddewis y llwybrau i’r farchnad sydd orau i’w hunain, gan ddefnyddio’u dulliau caffael eu hunain neu, yn hytrach, defnyddio’u harbenigedd mewnol i ddarparu ymyriadau. Wrth i’r UKSPF symud yn ei blaen, nhw fydd yn rhedeg gweithrediadau’r rhaglen o ddydd i ddydd i gyrraedd yr allbynnau a’r canlyniadau.

1.5 O fewn y model cyflawni datganoledig hwn, mae goruchwylio’r UKSPF yn briodol mewn awdurdodau lleol arweiniol yn hanfodol i gyflawni’r Gronfa. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu disgwyliadau’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddogion 151 yng Nghymru a Lloegr, a Swyddogion Adran 95 yn yr Alban, y gofynnir iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau bod yr UKSPF yn cael ei wario’n briodol, yn unol â’u dyletswyddau cyfreithiol. Trwy gydol y ddogfen hon, fe’u gelwir gyda’i gilydd yn Brif Swyddogion Cyllid. Mae Prif Swyddogion Cyllid yn gyfrifol am weinyddu materion ariannol eu hawdurdod lleol arweiniol a rhaid iddynt arwain ei swyddogaethau ariannol a sicrhau eu bod yn addas at eu diben. I gyflawni’r dyletswyddau hyn, rhaid bod gan Brif Swyddogion Ariannol gymwysterau proffesiynol a phrofiad addas. Bydd Prif Swyddogion Cyllid ar draws y DU yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio’r Gronfa, gan wneud yn siŵr bod y cynlluniau y mae’r awdurdodau lleol arweiniol yn eu cynnig yn gyflawnadwy ac yna cymryd cyfrifoldeb, o fewn y model cyflawni dirprwyedig, am eu cyflawni’n effeithiol.

1.6 Mae’r wybodaeth ychwanegol yn amlinellu gofynion dros gyfnod UKSPF a dylai gynorthwyo awdurdodau lleol arweiniol i sefydlu systemau a phrosesau cyflawni. Nid oes gofyn am gwmpasu a pharatoi cynlluniau buddsoddi i’w cyflwyno i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

1.7 Hefyd cyhoeddwyd dogfen cwestiynau cyffredin ar gyfer UKSPF. Mae’r ddogfen hon yn mynd i’r afael â llawer o gwestiynau a gododd awdurdodau lleol arweiniol ers cyhoeddi prosbectws UKSPF.

1.8 Dylai’r wybodaeth yn y ddogfen hon ategu a chefnogi sgyrsiau awdurdodau lleol arweiniol gyda Thimau Ardal perthnasol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Dylai’r sgyrsiau hyn fod yn bwynt cyfeirio cyntaf i awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer cwestiynau ynghylch gwybodaeth ychwanegol UKSPF. Hefyd, gall awdurdodau lleol arweiniol gysylltu â’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar ukspfenquiries@levellingup.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Updated wording as UKSPF additional information for Northern Ireland has now been published.

  2. Adding Welsh

  3. Added translation