Canllawiau

Diffiniadau o Allbynnau a Chanlyniadau (2)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar ddiffiniadau o ganlyniadau ac allbynnau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Crynodeb

2.1 Mae yna updated list of outputs and outcomes (MS Excel Spreadsheet, 54.7 KB) sy’n rhoi’r diffiniad o’r dangosydd a’r uned mesur sy’n cyfateb i deitl pob allbwn a chanlyniad. Bydd y diffiniadau hyn yn parhau i gael eu mireinio a’u gwella wrth i’r rhaglen barhau. Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r diffiniadau’n cael eu rheoli, gyda chyfraniad awdurdodau lleol arweiniol, i leihau eu heffaith ar gyflawni cymaint â phosibl.

2.2 Rydym yn annog awdurdodau lleol arweiniol i fynd ati’n bragmatig ac yn gymesur i bennu’r allbynnau a’r canlyniadau priodol sy’n cyd-fynd â’r ymyriadau yn eu cynllun buddsoddi. Awdurdodau lleol arweiniol fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ddewis allbynnau a chanlyniadau ar sail eu profiad o gyflawni prosiectau a rhaglenni tebyg, gan gynnwys trwy’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Yn yr un modd, dylai data gwaelodlin, ynghyd â’r casgliad data a’r dystiolaeth i gadarnhau’r cyflawni, fod yn gymesur hefyd â’r ymyriadau sy’n cael eu cefnogi a dylai’r awdurdod lleol arweiniol, yn gweithio gyda sefydliadau partner, bennu’r rhain yn lleol.

2.3 Mae’r allbynnau a’r canlyniadau a ddarperir gan awdurdodau lleol arweiniol fel rhan o’r cynllun buddsoddi yn enghreifftiol ac mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn disgwyl i gynlluniau a ddarperir gan awdurdodau lleol arweiniol gael eu diwygio wrth i’r cyflawni fynd yn ei flaen. Adlewyrchir hyn gan yr hyblygrwydd a roddir i’r broses o fireinio allbynnau fel rhan o’r broses rheoli newid ar gyfer y Gronfa, gweler y dudalen ar Adrodd a Rheoli Perfformiad. Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cydnabod bod canlyniadau’n fwy heriol i’w diffinio ac, felly, gall awdurdodau lleol arweiniol barhau i ddatblygu a diwygio’r rhain trwy gydol y cyflawni.

2.4 Mae dogfen y diffiniadau o’r allbynnau a’r canlyniadau hefyd yn cynnwys manylion am y newidiadau penodol y mae angen i awdurdodau lleol arweiniol eu gwneud wrth gofnodi eu hallbynnau a’u deilliannau. Nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol wneud yr un o’r addasiadau hyn hyd nes cylch cyntaf yr adrodd chwe misol. At ddiben y cynllun buddsoddi, dylai awdurdodau lleol arweiniol barhau i lenwi’r ffurflen deilliannau dangosol fel y’i hamlinellir yn y daenlen. Gwneir y newidiadau isod ar gyfer cylch cyntaf yr adrodd chwe misol ym mis Mai 2023:

Allbynnau:

  • Swm y llwybrau beicio neu’r llwybrau newydd neu sydd wedi’u gwella (m2) – bydd yr uned mesur yn cael ei newid o m2 i km.
  • Lefelau’r cyfranogiad mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden mewn cyfleusterau sydd wedi elwa o gyllid (ar sail chwaraewyr/timau cofrestredig) (% y cynnydd) – rhoddir y gorau i’r allbwn hwn. Os bydd awdurdod lleol arweiniol yn cyflwyno ffigur ar gyfer yr allbwn hwn fel rhan o broses y cynllun buddsoddi, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i’r awdurdod lleol arweiniol ddewis allbwn arall ar gyfer y cylch adrodd cyntaf. Ni fydd hyn yn effeithio ar drothwyon awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer y broses newid.

Canlyniadau:

  • Nifer y nwyddau newydd i’r farchnad (gwerth rhifiadol) – bydd y ffocws yn cael ei newid o’r nwyddau i’r busnesau y’u cyflwynodd.
  • Mentrau sy’n cyflwyno nwyddau newydd i’r cwmni o ganlyniad i gymorth – rhoddir y gorau i’r canlyniad hwn. Os bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn cyflwyno ffigur ar gyfer y canlyniad hwn fel rhan o broses y cynllun buddsoddi, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i’r awdurdod lleol arweiniol ddewis canlyniad arall ar gyfer y cylch adrodd cyntaf. Ni ystyrir canlyniadau fel rhan o’r broses newid.
  • Nifer y cyfleusterau cymunedol newydd neu rai sydd wedi’u gwella o ganlyniad i gymorth – rhoddir y gorau i’r canlyniad hwn. Os bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn cyflwyno ffigur ar gyfer y canlyniad hwn fel rhan o broses y cynllun buddsoddi, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i’r awdurdod lleol arweiniol ddewis canlyniad arall ar gyfer y cylch adrodd cyntaf. Ni ystyrir canlyniadau fel rhan o reoli newid.
  • Nifer yr angylion buddsoddi yn yr ardal leol – rhoddir y gorau i’r canlyniad hwn. Os bydd yr awdurdod lleol arweiniol yn cyflwyno ffigur ar gyfer y canlyniad hwn fel rhan o broses y cynllun buddsoddi, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i’r awdurdod lleol arweiniol ddewis canlyniad arall ar gyfer y cylch adrodd cyntaf. Ni ystyrir canlyniadau fel rhan o reoli newid.
  • Rhai canlyniadau sydd ar hyn o bryd yn gofyn am % (naill ai cynnydd neu ostyngiad) – bydd y cais yn newid o % i rifau gwirioneddol o’r cylch adrodd cyntaf.

2.5 Bydd y newid yn y canlyniadau hynny a fydd yn symud o % i rif gwirioneddol yn cynorthwyo’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i agregu’r canlyniadau yn well a bydd yn symleiddio’r ceisiadau i awdurdodau lleol arweiniol.

2.6 Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol arweiniol yw casglu ac adrodd allbynnau a chanlyniadau i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau trwy’r broses adrodd a amlinellir yn Adrodd a Rheoli Perfformiad.

2.7 Hefyd, dylai’r awdurdod lleol arweiniol gasglu data gwaelodlin (h.y. recordiad o’r allbwn neu’r canlyniad cyn bod yr ymyrraeth wedi digwydd). Ni fydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu data gwaelodlin; bydd disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol nodi a chael gafael ar ddata o’r fath eu hunain. Ni fydd hi’n bosibl darparu recordiad gwaelodlin ar gyfer llawer o allbynnau, oherwydd sero fydd hwnnw yn ôl diffiniad (e.e. faint o lwybrau beicio a gwblhawyd). Fodd bynnag, ar gyfer canlyniadau, mae’n bwysig recordio gwaelodlin, lle y bo’n bosibl, gan mai nod y metrigau hyn yw mesur newid a achoswyd drwy’r rhaglen.

2.8 Dylai awdurdodau lleol gadw tystiolaeth sy’n gallu cadarnhau allbynnau a chanlyniadau. Dylai awdurdodau lleol arweiniol fynd ati i gasglu tystiolaeth briodol i gadarnhau’r data gwaelodlin a’r data ôl-ymyrraeth.

2.9 Rhaid i allbwn a adroddir fod o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth. Er enghraifft, os cyflwynwyd ymyrraeth yn gysylltiedig â sgiliau, dylid cofnodi nifer y bobl a dderbyniodd yr ymyrraeth benodol honno. Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cydnabod y gall fod yn fwy anodd priodoli a gwahanu effaith yr UKSPF ar ganlyniadau, y gall sianeli eraill heblaw prosiectau UKSPF effeithio arnynt. Er enghraifft, gall amodau economaidd cyffredinol effeithio ar gyfraddau swyddi gwag mewn ardal. Felly, dylai’r awdurdod lleol arweiniol adrodd mor gywir â phosibl ar y canlyniad(au) y mae’r prosiect yn ceisio’u cyflawni. Lle y bo modd gwahaniaethu rhwng canlyniadau y gwnaeth sianeli eraill yn ogystal â’r UKSPF effeithio arnynt, dylai awdurdodau lleol arweiniol osgoi adrodd y newidiadau hynny nad ydynt o ganlyniad i’r UKSPF. Mae manylion pellach am werthuso a’r ymagwedd at effeithiau achosol wedi’u hamlinellu yn y bennod Gwerthuso.

2.10 Lle y bydd allbynnau a chanlyniadau achosol ymyrraeth yn cyfrannu’n uniongyrchol at fwy nag un o flaenoriaethau UKSPF, dylid cofnodi’r allbynnau a’r canlyniadau o dan y dangosyddion priodol. Felly, os bydd ymyrraeth yn perthyn i fwy nag un flaenoriaeth, dylai awdurdodau lleol arweiniol ddal pob allbwn a chanlyniad ar draws pob/unrhyw flaenoriaeth berthnasol mewn adrodd chwe misol. Er enghraifft, os bydd unigolyn economaidd anweithgar wedi mynd ar gwrs ymyrryd pobl a sgiliau sydd ag elfen cymorth cyflogaeth yn rhan ohono, gellir cofnodi’r presenoldeb hwn o dan ddangosyddion allbwn ‘Nifer y bobl sy’n mynychu sesiynau hyfforddiant’ a ‘Nifer y bobl sy’n cael cymorth i sicrhau cyflogaeth’.

2.11 Os bydd awdurdod lleol arweiniol yn cofnodi allbynnau a chanlyniadau ychwanegol sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth wahanol i’r rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r ymyrraeth a wnaed, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn i awdurdodau lleol arweiniol gofnodi’r rhain yn eu hadroddiadau chwe misol. Hefyd, anogir awdurdodau lleol arweiniol i gofnodi unrhyw allbynnau neu ganlyniadau sy’n berthnasol yn eu tyb nhw, ond na chawsant eu pennu’n ddangosyddion o dan yr un o’r blaenoriaethau diffiniedig.

2.12 Nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol ddewis nac adrodd ar bob dangosydd ar gyfer yr ymyrraeth a ddewiswyd, dim ond y dangosyddion sy’n berthnasol i’r gweithgaredd a wnaed, ym marn yr awdurdod lleol arweiniol.

2.13 Ar adegau pan fydd dau brosiect neu fwy gyda’i gilydd yn arwain at un allbwn neu ganlyniad, dylai’r awdurdod lleol arweiniol ddefnyddio’i grebwyll ar sail priodoli i benderfynu ymhle y dylid adrodd y dangosydd perthnasol. Os bydd yr uned mesur yn wahanol, ni ystyrir bo hynny’n gyfrif dwbl. Y nod yw mesur elfennau gwahanol allbwn neu ganlyniad. Er enghraifft, gall a dylai llwybr beicio newydd gael ei recordio o dan ddangosyddion allbwn ‘cyfanswm hyd y llwybrau beicio newydd neu rai wedi’u gwella’ a ‘nifer y llwybrau beicio newydd neu rai wedi’u gwella’.

2.14 Gall buddiolwr prosiect, e.e. unigolyn neu fusnes, greu mwy ag un allbwn neu ganlyniad i’w gyfrif yn erbyn dangosyddion gwahanol. Er enghraifft, gall un busnes gael grant ariannol ynghyd â math arall o gymorth. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylid eu cofnodi ym mhob allbwn neu ganlyniad perthnasol ac ni fyddant yn cael eu hystyried yn gyfrif dwbl.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Update to the outputs and outcomes spreadsheet in paragraph 2.1 to remove the percentage column in the outcome indicators table.

  2. Adding Welsh

  3. Added translation