Canllawiau

Cydraddoldebau (9)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar gydraddoldebau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cydraddoldebau

9.1 Ym Mhrydain, mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gofyn bod awdurdodau cyhoeddus yn arfer eu swyddogaethau i roi ystyriaeth briodol i’r angen am: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd gan neu o dan y Ddeddf; datblygu cyfle cyfartal rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu; meithrin perthnasoedd da rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

9.2 Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arweiniol ym Mhrydain fodloni dyletswydd cydraddoldeb statudol y sector cyhoeddus wrth gyflawni eu dyletswyddau yn gysylltiedig â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 August 2022 + show all updates
  1. Welsh added

  2. Added translation