Canllawiau

Brandio a Chyhoeddusrwydd (6)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar frandio a chyhoeddusrwydd ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Brandio a Chyhoeddusrwydd

6.1 Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod agenda ehangach Ffyniant Bro yn cael ei hyrwyddo a’i gydnabod yn effeithiol ac, yn rhan o hynny, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

6.2 Mae’r gofynion yn cwmpasu pob deunydd cyfathrebu a dogfen gyhoeddus sy’n gysylltiedig â gweithgarwch a ariennir – gan gynnwys deunydd print a chyhoeddiadau, drwodd i ddeunyddiau digidol ac electronig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw waith paratoadol sy’n gysylltiedig â’r Gronfa.

6.3 Rydym yn disgwyl i leoedd gydymffurfio â’r gofynion hyn a chadw at y canllawiau fel rhan o’r model cyflawni dirprwyedig.

Gofynion brandio Ffyniant Bro

6.4 Rhaid dilyn gofynion cyhoeddusrwydd a brandio Llywodraeth y DU a Ffyniant Bro ar gyfer pob prosiect a ariennir gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’r gofynion yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys defnyddio logo, cynhyrchu placiau, deunyddiau print a deunyddiau digidol, a hefyd cyd-frandio. Mae’r gofynion dwyieithog ar gyfer Cymru a sut y dylid eu gweithredu yn cael eu hesbonio, hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

Canllawiau Brandio Llywodraeth y DU

Canllaw Brandio – Ariennir gan Lywodraeth y DU (PDF, 1290 KB)

Cyhoeddir canllawiau pellach ar ofynion brandio Ffyniant Bro cyn bo hir.

6.5 Ar gyfer UKSPF, caniateir cyd-frandio gydag awdurdodau lleol arweiniol (neu unrhyw frandio daearyddol strategol) neu gyllidwyr yn unig.

Gofynion penodol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

6.6 Yn ogystal â dilyn a bodloni gofynion Ffyniant Bro a nodir uchod, mae angen i awdurdodau lleol arweiniol a chyflawnwyr prosiectau ddilyn nifer o ofynion ychwanegol ar gyfer prosiectau UKSPF.

Deunyddiau digidol gan gynnwys gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol

6.7 Gall sianeli digidol ddarparu ffordd gyflym o gyrraedd cynulleidfaoedd a hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa. Lle y cyhoeddir manylion gweithgareddau’r Gronfa ar wefan, rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at y cyllid trwy UKSPF fel a ganlyn:

‘Ariennir y prosiect hwn [yn rhannol] gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU’.

6.8 Lle y bo’n ymarferol, dylai awdurdodau lleol arweiniol a chyflwynwyr prosiectau hefyd gynnwys dolen i wefan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a chynnwys y testun canlynol (y gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer nodiadau i olygyddion):

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

6.9 Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa ar y cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, dylid defnyddio’r hashnod (#) canlynol #UKSPF. Bydd Llywodraeth y DU yn gallu ail-drydar hwn, gan ganiatáu i eraill ddilyn gweithgareddau’r Gronfa.

Y wasg a’r cyfryngau, gan gynnwys datganiadau i’r wasg a nodiadau i olygyddion

6.10 Ffordd gost effeithiol o hyrwyddo gweithgareddau’r Gronfa yw trwy’r cyfryngau. Arfer da yw datblygu datganiadau i’r wasg adeg lansio gweithgareddau, ac wedi hynny i gyhoeddi cerrig milltir a chyflawniadau allweddol.

6.11 Rhaid i ddatganiadau i’r wasg gynnwys cyfeiriad clir ac amlwg at yr UKSPF, ym mhrif gorff y datganiad i’r wasg fel a ganlyn:

‘[Mae’r prosiect hwn/Enw’r prosiect] wedi derbyn £[RHOWCH SWM] gan Lywodraeth y Du trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU’.

6.12 Mae’n ofynnol hefyd defnyddio nodiadau gosod i olygyddion ym mhob gweithgarwch y cyfryngau. Darparwyd y testun i’w ddefnyddio uchod yn adran y Deunyddiau Digidol.

6.13 Nid oes angen i ni weld unrhyw weithgareddau brandio a chyhoeddusrwydd y mae awdurdodau lleol arweiniol a chyflawnwyr prosiectau yn ymgymryd â nhw wrth gyflawni gweithgareddau’r Gronfa, ond dylid cadw tystiolaeth o gydymffurfio â chanllawiau brandio a chyhoeddusrwydd at ddibenion monitro ac archwilio.

6.14 Hefyd, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod bob amser i Lywodraeth y DU am unrhyw gyfleoedd am gyhoeddusrwydd yn y dyfodol, trwy adroddiadau chwarterol i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Updated link to latest guidance on UK government branding requirements.

  2. Welsh added

  3. Added translation